xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU

Diwygiadau i Atodlen 2

8.—(1Mae Atodlen 2 (cyfraniad y myfyriwr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 (dehongli), paragraff 1(1), yn y diffiniad o “incwm trethadwy”—

(a)ym mharagraff (b), yn lle “un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE”;

(b)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)pan fo deddfwriaeth—

(i)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir;

(ii)mwy nag un o Wladwriaethau’r AEE; neu

(iii)un o Wladwriaethau’r AEE a’r Swistir,

yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),.

(3Yn Rhan 2 (cyfrifo cyfraniad)—

(a)ym mharagraff 3(1)(b) (cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;

(b)ym mharagraff 4 (cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys), yn lle “un o Wladwriaethau eraill yr AEE” rhodder “un o Wladwriaethau’r AEE” ym mhob lle y mae’n digwydd.