Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020
2020 Rhif 1318 (Cy. 290)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 59, 60(1) a (3), 61(1) a 333(4B) a (7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2 ac, mewn perthynas ag erthygl 4(8), gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/10704 ar bennu priodweddau pwyntiau mynediad di-wifr ardal fach yn unol â pharagraff 2 o Erthygl 57 o Gyfarwyddeb EU 2018/1972 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu’r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd5, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.