- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/38”;
(ii)yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad 2020/354” (“Regulation 2020/354”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC(2);”
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn UE a ddiffinnir ym mharagraff (1) yn gyfeiriad at yr offeryn UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
(3) Yn lle Rhan 7 (gweithredu Cyfarwyddeb 2008/38) rhodder—
16. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2020/354.
17. Mae person sy’n mynd yn groes i Erthygl 1 (amodau ar farchnata), fel y’i darllenir gydag Erthygl 2 (rhanddirymiad ar gyfer bwyd anifeiliaid sy’n cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2008/38/EC) ac Erthygl 3 (darpariaethau trosiannol ar gyfer bwyd anifeiliaid a labelir cyn 25 Mawrth 2022 yn unol â’r rheolau sy’n gymwys cyn 25 Mawrth 2020), neu sy’n methu â chydymffurfio â hi, yn cyflawni trosedd.”
(4) Yn rheoliad 18 (cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hyn), ym mharagraff (1), yn lle “17(1)” rhodder “17”.
(5) Yn rheoliad 19 (dyletswyddau i orfodi), ar ôl “Rheoliad 767/2009” mewnosoder “, Rheoliad 2020/354”.
O.S. 2016/386 (Cy. 120), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806 (Cy. 162).
OJ Rhif L67, 5.3.2020, t. 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: