Dehongli3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “amlen berthnasol sydd wedi ei hagor” (“opened relevant envelope”) yw—

    1. a

      prif amlen sydd wedi ei hagor, neu

    2. b

      amlen (ac eithrio prif amlen) sy’n dod i law’r swyddog canlyniadau neu’r swyddog cyfrif ac sydd, pan gaiff ei hagor, yn cynnwys amlen papur pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy’r post neu bapur pleidleisio;

    mae i “amlen papur pleidleisio”, “prif amlen”, “pleidleisiwr drwy’r post”, “daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio” a chyfeiriadau eraill at ddaliedyddion penodedig yr un ystyron ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 5 o Reoliadau 2001;

  • mae i “ardal etholiadol” yr un ystyr ag a roddir i “electoral area” yn adran 203(1) o Ddeddf 1983;

  • ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2021;

  • ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19832;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20003;

  • ystyr “Deddf 2020” (“the 2020 Act”) yw Deddf y Coronafeirws 2020;

  • ystyr “is-etholiad perthnasol” (“relevant by-election”) yw—

    1. a

      etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru; neu

    2. b

      etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru,

  • pan fwriadwyd i’r bleidlais ar gyfer unrhyw etholiad o’r fath gael ei chynnal yn ystod y cyfnod perthnasol ac na chynhaliwyd y bleidlais yn ystod y cyfnod hwnnw o ganlyniad i Reoliadau 2020;

  • ystyr “pleidlais ohiriedig” (“a postponed poll”) yw unrhyw bleidlais a fydd, o ganlyniad i Reoliadau 2020, yn disodli is-etholiad perthnasol ac yn cael ei chynnal o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac yn dod i ben ar 16 Ebrill 2021;

  • mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli)4;

  • ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 20015;

  • ystyr “Rheoliadau 2020” (“the 2020 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 20206;

  • mae i “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post” a “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post fel dirprwyon” yr un ystyron ag a roddir i “postal voters list” a “proxy postal voters list” yn adran 202(1) o Ddeddf 19837;

  • mae i “rhoddai rheoleiddiedig” yr un ystyr ag a roddir i “regulated donee” ym mharagraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2000;

  • mae i “swyddog cofrestru perthnasol”—

    1. a

      yn achos is-etholiad perthnasol—

      1. i

        pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 20068;

      2. ii

        pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 20069;

    mae i “ymgeisydd” yr ystyr a roddir i “candidate” gan adran 118A o Ddeddf 198310.