- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 6.
6. Ym mharagraff 16 o Atodlen 3 (cyfrifo incwm)—
(a)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) Y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincymau gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF-1, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1.”;
(b)yn lle is-baragraff (5) rhodder—
“(5) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(i)pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincymau gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF, neu
(ii)mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF;
(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.”
O.S. 2018/191 (Cy. 42), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: