7. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
8. Ym mharagraff 16 o Atodlen 3 (cyfrifo incwm), yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) Y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincwm gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF-1, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1.”
O.S. 2019/895 (Cy. 161), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.