4. Yn Atodlen 5 (asesiad ariannol)—
(a)ym mharagraff 5—
(i)yn is-baragraff (2), ar ôl “is-baragraff (3)” mewnosoder “ac is-baragraff (4A)”;
(ii)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—
“(4A) Os pennir incwm aelwyd myfyriwr cymwys drwy gyfeirio at incwm gweddilliol dau riant o dan baragraff 3(2)(a), rhaid dehongli’r cyfeiriadau yn is-baragraffau (2), (3) a (4) at incwm gweddilliol A fel pe baent yn gyfeiriadau at swm cyfanredol incymau gweddilliol y ddau riant.”;
(b)ym mharagraff 6(1), ar ôl “(a chan eithrio is-baragraffau” mewnosoder “(4A),”;
(c)ym mharagraff 7—
(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(ii)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Ond wrth gymhwyso is-baragraffau (2), (3) a (4) o baragraff 5 wrth bennu incwm gweddilliol partner rhiant myfyriwr cymwys newydd, rhaid dehongli’r cyfeiriadau at incwm gweddilliol A yn yr is-baragraffau hynny fel pe baent yn gyfeiriadau at swm cyfanredol incymau gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys newydd a phartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd.”