(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”);
(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”);
(c)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”);
(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”).
Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017.
Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.
Mae’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol.
Mae’r Rheoliadau Graddau Meistr yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr dynodedig. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Graddau Meistr.
Mae rheoliadau 4 i 34 yn uwchraddio’r ffigurau yn y rheoliadau sy’n cael eu diwygio:
mae rheoliadau 4 i 18 yn diwygio Rheoliadau 2017;
mae rheoliadau 19 i 30 yn diwygio Rheoliadau 2018;
mae rheoliadau 31 i 32 yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol; ac
mae rheoliadau 33 i 35 yn diwygio’r Rheoliadau Graddau Meistr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.