RHAN 5DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (GRADDAU MEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2019
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
32. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 34 i 35.
Diwygiadau i reoliad 31
33. Yn rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau), yn lle “£16,000” yn y ddau le y mae’n ymddangos rhodder “£16,489”.
Diwygiadau i reoliad 36
34. Yn rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys)—
(a)ym mharagraff (8), yn lle “£16,000” rhodder “£16,489”;
(b)ym mharagraff (10), yn lle “£16,000” rhodder “£16,489”.