- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Penodir aelodau IGDC fel a ganlyn—
(a)penodir y cadeirydd, yr is-gadeirydd a hyd at 5 o aelodau eraill nad ydynt yn swyddogion gan Weinidogion Cymru;
(b)penodir y prif swyddog yn unol â pharagraff (3);
(c)penodir yr aelodau sy’n swyddogion yn unol â pharagraff (4);
(d)penodir yr aelodau cyswllt yn unol â pharagraff (6).
(2) Ni chaiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion fod yn gyflogeion IGDC.
(3) Penodir y prif swyddog gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion, ar wahân i’r prif swyddog cyntaf a benodir gan Weinidogion Cymru.
(4) Penodir yr aelodau sy’n swyddogion fel a ganlyn:
(a)penodir y swyddog cyllid cyntaf a’r swyddog clinigol cyntaf gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion;
(b)penodir yr holl aelodau eraill sy’n swyddogion gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a’r prif swyddog.
(5) Mae’r aelodau sy’n swyddogion i fod yn gyflogeion IGDC.
(6) Penodir yr aelodau cyswllt fel a ganlyn:
(a)caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru, benodi hyd at 2 aelod cyswllt, a
(b)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan IGDC, caniateir penodi 1 aelod cyswllt yn unol â rheoliad 4.
4.—(1) Pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan IGCD, rhaid i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan IGCD i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt.
(2) Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo a’r modd y mae enwebiad i’w wneud.
(3) Rhaid i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion benodi person o blith yr ymgeiswyr cymwys, os enwebir rhai, yn aelod cyswllt.
(4) Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w enwebu o dan baragraff (1) ond os yw’r person—
(a)yn aelod o staff IGDC,
(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan IGDC, ac
(c)wedi ei enwebu o fewn y cyfnod a bennir o dan baragraff (2).
5. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y trefniadau ar gyfer penodi personau yn aelodau nad ydynt yn swyddogion yn ystyried y cod a gyhoeddir gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet sy’n nodi—
(a)yr egwyddorion ar gyfer penodiadau cyhoeddus, a
(b)y canllawiau ar yr arferion i’w dilyn mewn perthynas â gwneud penodiadau cyhoeddus.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: