- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)os yw’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 12,
(b)os yw swydd y cadeirydd yn wag dros dro am unrhyw reswm, neu
(c)os nad yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni dyletswyddau’r cadeirydd, neu os nad yw’n fodlon gwneud hynny, oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae’r is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff IGDC—
(a)sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau;
(b)ar y cyd ag un neu ragor o Awdurdodau Iechyd Arbennig, sefydlu cyd-bwyllgorau neu gyd-is-bwyllgorau;
sy’n cynnwys yn llawn neu’n rhannol bersonau nad ydynt yn aelodau o IGDC.
(2) Rhaid i IGDC sefydlu unrhyw bwyllgorau, is-bwyllgorau, cyd-bwyllgorau a chyd-is-bwyllgorau o’r fath y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) os ydynt yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff IGDC wneud trefniadau ar gyfer arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gan bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor a benodir o dan reoliad 16, neu gan swyddog IGDC, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r amodau hynny y mae IGDC yn meddwl eu bod yn addas.
(2) Nid yw trefniant o dan baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb IGDC i arfer swyddogaeth ddirprwyedig neu ei allu i wneud hynny.
18.—(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i IGDC wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoli ei drafodion a’i fusnes.
(2) Pan fo pwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu is-gyd-bwyllgor wedi ei sefydlu yn unol â rheoliad 16, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i IGDC gymeradwyo unrhyw reolau sefydlog a wneir gan y pwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu is-gyd-bwyllgor hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: