RHAN 4Cymhwystra, anghymhwyso, atal dros dro a diswyddo

Aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru – atal dros dro

12.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, atal person dros dro tra bo’n ystyried pa un ai i ddiswyddo’r person hwnnw o dan reoliad 11.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, roi hysbysiad o’r penderfyniad i atal person dros dro yn unol â thelerau’r penodiad.

(3Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.