RHAN 1Cyffredinol
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “aelod cyswllt” (“associate member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(5) o’r Gorchymyn;
mae i “aelod nad yw’n swyddog” (“non-officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(3) o’r Gorchymyn;
mae i “aelod sy’n swyddog” (“officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(4) o’r Gorchymyn;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—
- a
grŵp comisiynu clinigol a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 20062,
- b
yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yr Alban sydd wedi ei chyfansoddi o dan adran 10(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 19783,
- c
Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 19784,
- d
y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 252 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20125,
- e
yr Awdurdod Ymchwil Iechyd sydd wedi ei sefydlu o dan adran 109 o Ddeddf Gofal 20146,
- f
Bwrdd Iechyd Lleol,
- g
Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
- h
ymddiriedolaeth sefydledig GIG a sefydlir o dan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
- i
ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan adran 18 o’r Ddeddf neu a sefydlir o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
- j
y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal sydd wedi ei sefydlu o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012,
- k
y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 20097,
- l
Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o’r Ddeddf;
- a
mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf 1992;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 19928;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 20209;
mae i “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yr ystyr a roddir yn erthygl 1(3) o’r Gorchymyn;
ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru sydd wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn;
mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan Ddeddf 1992.