Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “aelod cyswllt” (“associate member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(5) o’r Gorchymyn;
mae i “aelod nad yw’n swyddog” (“non-officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(3) o’r Gorchymyn;
mae i “aelod sy’n swyddog” (“officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(4) o’r Gorchymyn;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—
grŵp comisiynu clinigol a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1),
yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yr Alban sydd wedi ei chyfansoddi o dan adran 10(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(2),
Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3),
y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 252 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012(4),
yr Awdurdod Ymchwil Iechyd sydd wedi ei sefydlu o dan adran 109 o Ddeddf Gofal 2014(5),
Bwrdd Iechyd Lleol,
Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
ymddiriedolaeth sefydledig GIG a sefydlir o dan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan adran 18 o’r Ddeddf neu a sefydlir o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal sydd wedi ei sefydlu o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012,
y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(6),
Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o’r Ddeddf;
mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf 1992;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(7);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020(8);
mae i “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yr ystyr a roddir yn erthygl 1(3) o’r Gorchymyn;
ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru sydd wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn;
mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan Ddeddf 1992.
2006 p. 41, mewnosodwyd adran 14D gan adran 25(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 p. 7.
1978 p. 29 (“Deddf 1978”), adran 10(1) a ddiwygiwyd gan adran 25(3) o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 p. 53 a pharagraff 2 o Atodlen 6 iddi.
Gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 2 o Ddeddf 1978 gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 p. 41, Atodlen 7, paragraff 1; Deddf Ysmygu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Yr Alban) 2005 dsa 13, Atodlen 2, paragraff 2(2); Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 p. 19, adran 28(a)(i) a (ii), adran 28(b), adran 28(c) ac adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 19(1); Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) asp 7, Atodlen 1, paragraff 1(2)(a) a (b).