NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1219 (Cy. 276)) (“Rheoliadau Rhif 4”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn lleihau’r cyfnod pan fo’n ofynnol i berson ynysu o 14 o ddiwrnodau i 10 niwrnod.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol sydd â’r effaith na fydd ond yn ofynnol i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ynysu am 10 niwrnod, pan ddaw’r diwygiadau yn rheoliad 2 i rym. Os yw’r person eisoes wedi mynd heibio 10fed diwrnod ei ynysiad ar y pwynt hwnnw, caiff roi’r gorau i ynysu ar unwaith.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Rhif 4 er mwyn—

(a)darparu bod cyfnod ynysu person yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y digwyddiad sy’n sbarduno’r gofyniad (er enghraifft – prawf positif, y diwrnod cyntaf y profir symptomau, neu’r diwrnod pan ddaethpwyd i gysylltiad agos â person sydd wedi cael prawf positif);

(b)darparu bod rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu o dan reoliad 13 neu 14 o Reoliadau Rhif 4 o ganlyniad i fod wedi dod i gysylltiad agos â pherson sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws ynysu am 10 niwrnod yn hytrach na 14 o ddiwrnodau;

(c)caniatáu i blentyn y mae’n ofynnol iddo ynysu o dan reoliad 12 neu 14 o Reoliadau Rhif 4 symud rhwng aelwydydd ei rieni yn ystod y cyfnod ynysu os yw hyn yn cyd-fynd â threfniadau sydd eisoes yn bodoli yn ymwneud â gwarchodaeth a chyswllt â rhieni’r plentyn;

(d)hepgor y gallu i swyddog olrhain cysylltiadau ddatgelu gwybodaeth am gosbau penodedig neu achosion troseddol a ddygir mewn perthynas â chyflawni trosedd o dorri’r gofynion a osodir gan ddarpariaethau Rheoliadau Rhif 4 yn ymwneud â gofynion ynysu (nid yw’r wybodaeth honno ar gael i swyddogion olrhain cysylltiadau felly nid oedd angen y ddarpariaeth hon).

Mae rheoliad 5 yn darparu bod person sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu o dan Reoliadau Rhif 4 pan ddaw’r diwygiadau yn rheoliad 4(2) i rym yn ddarostyngedig i’r gofynion hynny fel y’u diwygir gan reoliad 4(2). Er enghraifft, os yw’r person yn ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau caiff y cyfnod hwnnw ei ostwng i 10 niwrnod pan ddaw’r diwygiadau i rym. Os yw’r person eisoes wedi mynd heibio 10fed diwrnod ei ynysiad ar y pwynt hwnnw, caiff roi’r gorau i ynysu ar unwaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.