2020 Rhif 1487 (Cy. 317)

Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath2, mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd3, a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd4.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE a fewnosodir yn yr offerynnau statudol y mae’r Rheoliadau hyn yn eu diwygio gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau UE hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2020.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062

1

Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20066 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” (“the Community Regulations”), yn lle “, Rheoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625” rhodder “a phecyn Rheoliad 2017/625”;

ii

hepgorer y diffiniad sy’n dechrau ag “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;

iii

yn lle’r diffiniad o “Pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—

  • ystyr “Pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/625”;

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.

3

Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20093

1

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20097 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1)—

i

hepgorer y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;

ii

yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625” rhodder “phecyn Rheoliad 2017/625”;

iii

yn lle’r diffiniad o “pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—

  • ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/265”;

b

ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

1A

Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.

c

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

Onid yw’n ymddangos bod bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yn ôl y digwydd.

3

Yn rheoliad 22 (dehongli Rhan 3)—

a

yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

  • ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio wedi eu rheoleiddio gan Erthygl 44 neu Erthygl 47(1)(d), (e) neu (f) o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad ydynt wedi eu rhestru ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd rheoli ar y ffin8;

b

yn y diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig”, hepgorer “yn Rheoliad 2017/625 neu”.

4

Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “a 45(1), (2) a (4)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “, 45(1), (2) a (4), a 49(1)”.

5

Yn rheoliad 36(2) (costau a ffioedd) ar ôl “y cyfeirir atynt yn”, mewnosoder “Erthygl 79(2)(a) ac”.

6

Yn rheoliad 41(1A) (tramgwyddau a chosbau), yn lle’r geiriau o “Erthygl 3” hyd at “cynhyrchu egin”, rhodder “Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628”.

7

Yn Rhan 4 (adennill treuliau), yn y lle priodol mewnosoder—

Ffioedd neu daliadau sy’n deillio o reolaethau swyddogol anghynlluniedig42A

Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.

8

Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

9

Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

10

Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.

11

Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 20164

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 20169 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—

a

ym mharagraff (1)

i

hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”;

ii

yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

  • ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion 10;

  • ystyr “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol11;

b

ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 882/2004, Rheoliad 183/2005 neu Reoliad 152/2009”, rhodder “Rheoliad 183/2005, Rheoliad 152/2009 a Rheoliad 2017/625”.

3

Yn rheoliad 19 (dadansoddiad ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol), yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Mewn achosion pan nad oes dull priodol o ddadansoddi yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni’r dadansoddiad yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 34(1) a (2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2019/1793.

4

Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl—

a

hepgorer y cofnodion ar gyfer Rheoliad 882/2004 ac ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009;

b

yn y lleoedd priodol, mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

  • Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad 2019/1793 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH

Rheoliad 2(1A)

Pecyn Rheoliad 2017/625

ATODLEN 2Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliad 3(8)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH

Rheoliad 2(1A)

Pecyn Rheoliad 2017/625

ATODLEN 3Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 4 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliad 3(9)

ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Rheoliad 3(1)

Colofn 1

Colofn 2

Awdurdod Cymwys

Y darpariaethau yn Rheoliad 2017/625

Yr Asiantaeth

Erthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 11, 12, 15, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 37, 38, 39, 40, 42, 63(4)(a), 65(5), 66(6), 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 135, 137, 138, 140.

Yr awdurdod bwyd anifeiliaid

Erthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 135, 137, 138, 140.

ATODLEN 4Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 5 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliad 3(10)

ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Rheoliad 3(3)

Colofn 1

Colofn 2

Awdurdod Cymwys

Y darpariaethau yn Rheoliad 2017/625

Yr Asiantaeth

Erthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 42, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57(3), 63(4)(a), 65(5), 66(6), 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.

Yr awdurdod bwyd

Erthyglau 4(2), 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.

ATODLEN 5Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 6 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliad 3(11)

ATODLEN 6DARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG

Rheoliadau 22 a 41(1)(a)

Colofn 1

Colofn 2

Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE

Y cynnwys

Erthygl 69(1) o Reoliad 2017/625

Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i gyflawni’r holl fesurau y mae’r awdurdodau cymwys yn eu gorchymyn.

Erthygl 1 o Reoliad 2019/1013

Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys ynghylch y safle rheoli ar y ffin, o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir i’r llwyth gyrraedd.

Erthygl 3 o Reoliad 2019/1602

Gofyniad bod Dogfen Fynediad Iechyd Gyffredin (DFIG) i fynd gyda phob llwyth pa un a gaiff ei hollti yn y safle rheoli ar y ffin neu ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin ai peidio.

Erthygl 4(a) o Reoliad 2019/1602

Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda’r llwyth i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.

Erthygl 4(b) o Reoliad 2019/1602

Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG at ddefnydd yr awdurdodau tollau.

Erthygl 5(1)(a) o Reoliad 2019/1602

Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth hysbysu ymlaen llaw, i ddatgan mai’r safle rheoli ar y ffin yw’r gyrchfan yn y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan.

Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602

Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i ofyn am i’r llwyth gael ei hollti, a’i fod i gyflwyno, drwy’r IMSOC, DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.

Erthygl 5(1)(d) o Reoliad 2019/1602

Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn mynd gyda’r rhan berthnasol i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.

Erthygl 5(1)(e) o Reoliad 2019/1602

Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.

Erthygl 5(2)(a) o Reoliad 2019/1602

Pan fo llwyth nad yw’n cydymffurfio i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i gyflwyno DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.

Erthygl 6(a) o Reoliad 2019/1602

Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda phob rhan o’r llwyth a holltwyd hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.

Erthygl 6(b) o Reoliad 2019/1602

Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.

Erthygl 3(1) o Reoliad 2019/1666

Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi gwybod i’r awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y sefydliad yn y gyrchfan, fod y llwyth wedi cyrraedd, a hynny o fewn un diwrnod i’r adeg y mae’r llwyth yn cyrraedd.

Erthygl 6(1) o Reoliad 2019/2123

Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i’r pwynt rheoli a nodir yn y DFIG, neu benderfynu gwneud hynny, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gyflwyno’r llwyth ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol i bwynt rheoli gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i bwynt rheoli arall yn unol â phwynt (a) o Erthygl 3(1) a phwynt (a) o Erthygl 4(2).

Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2123

Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth nodi rhif cyfeirnod y DFIG a gwblhawyd y cyfeirir ati yn Erthygl 6(3) yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG honno at ddefnydd yr awdurdodau tollau.

Erthygl 6(1) of Reoliad 2019/2124

Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwythi a awdurdodir ar gyfer eu cludo ymlaen yn unol ag Erthygl 4 yn sicrhau: (a) yn ystod ei gludo i’r cyfleuster cludo ymlaen, a’i storio yn y cyfleuster hwnnw, nad ymyrrir â’r llwyth mewn unrhyw fodd; (b) nad yw’r llwyth yn ddarostyngedig i unrhyw addasu, prosesu, amnewid neu newid deunydd pecynnu; (c) nad yw’r llwyth yn gadael y cyfleuster cludo ymlaen hyd nes y bydd awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn gwneud y penderfyniad ynghylch y llwyth yn unol ag Erthygl 55 o Reoliad 2017/625.

Erthygl 6(2) o Reoliad 2019/2124

Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gludo’r llwyth o dan oruchwyliaeth tollau yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen, heb ddadlwytho’r nwyddau yn ystod eu cludo, a rhaid iddo storio’r llwyth yn y cyfleuster cludo ymlaen.

Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2124

Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod copi, ar bapur neu ar ffurf electronig, o’r DFIG y cyfeirir ati yn Erthygl 3 yn mynd gyda’r llwyth o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen.

Erthygl 6(5) o Reoliad 2019/2124

Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn hysbysu’r awdurdodau cymwys yn y cyrchfan derfynol bod y llwyth wedi cyrraedd y cyfleuster cludo ymlaen.

Erthygl 6(6) o Reoliad 2019/2124

Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi ei gludo ymlaen i’r cyfleuster cludo ymlaen, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth ei gludo ymlaen i gyfleuster cludo ymlaen gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi’r newid yn unol ag Erthygl 4 ac ar yr amod y cydymffurfir â’r amodau a nodir ym mharagraffau 1 i 5 o Erthygl 6.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes diogelwch a hylendid bwyd anifeiliaid a bwyd er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.

Mae rheoliad 2 yn disodli ac yn diweddaru’r rhestr o Reoliadau’r UE a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol o ganlyniad i’r rhestr a ddiweddarwyd.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)).

  • Mae paragraffau (2) ac (8) yn disodli ac yn diweddaru’r rhestr o Reoliadau’r UE a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny, ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig a chanlyniadol o ganlyniad i’r rhestr a ddiweddwyd.

  • Mae paragraff (3) yn rhoi diffiniad diwygiedig o “cynnyrch” yn lle’r un blaenorol yn rheoliad 22. Mae paragraff (4) yn gwneud diwygiad canlyniadol o ganlyniad i’r diffiniad diwygiedig.

  • Mae paragraff (5) yn diwygio rheoliad 36 i wneud darpariaeth ar gyfer talu costau rheolaethau swyddogol o dan Erthygl 79(2)(a) o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â Rhan 3. Mae paragraff (7) yn mewnosod rheoliad 42A newydd yn Rhan 4 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer talu costau rheolaethau swyddogol o dan Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625.

  • Mae paragraff (6) yn diwygio rheoliad 41(1A) i ddisodli’r cyfeiriad at Erthygl 3 o Reoliad (EU) Rhif 211/2013, a ddiddymwyd ac a ddisodlwyd gan Reoliadau (EU) 2019/625 a 2019/628 (rhan o’r pecyn o Reoliadau a wnaed o dan Reoliad (EU) 2017/625).

  • Mae paragraffau (9) a (10) yn rhoi Atodlenni 4 a 5 newydd, yn y drefn honno, yn lle’r rhai blaenorol i gywiro gwallau yn yr Atodlenni presennol.

  • Mae paragraff (11) yn rhoi Atodlen 6 newydd yn lle’r un flaenorol i ddiweddaru’r rhestr o ‘darpariaethau mewnforio penodedig’.

Mae rheoliad 4 yn diweddaru cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387 (Cy. 121)). Yn benodol, mae’n disodli cyfeiriadau at Reoliad (EC) Rhif 882/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 669/2009, sydd yn ôl eu trefn wedi eu diddymu a’u disodli gan Reoliad (EU) 2017/625 a Rheoliad (EU) 2019/1793.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.