- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;
(ii)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625” rhodder “phecyn Rheoliad 2017/625”;
(iii)yn lle’r diffiniad o “pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—
“ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/265”;”;
(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
“(1A) Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.”
(c)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Onid yw’n ymddangos bod bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yn ôl y digwydd.”
(3) Yn rheoliad 22 (dehongli Rhan 3)—
(a)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—
“ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio wedi eu rheoleiddio gan Erthygl 44 neu Erthygl 47(1)(d), (e) neu (f) o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad ydynt wedi eu rhestru ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd rheoli ar y ffin(2);”;
(b)yn y diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig”, hepgorer “yn Rheoliad 2017/625 neu”.
(4) Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “a 45(1), (2) a (4)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “, 45(1), (2) a (4), a 49(1)”.
(5) Yn rheoliad 36(2) (costau a ffioedd) ar ôl “y cyfeirir atynt yn”, mewnosoder “Erthygl 79(2)(a) ac”.
(6) Yn rheoliad 41(1A) (tramgwyddau a chosbau), yn lle’r geiriau o “Erthygl 3” hyd at “cynhyrchu egin”, rhodder “Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628”.
(7) Yn Rhan 4 (adennill treuliau), yn y lle priodol mewnosoder—
42A. Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.”
(8) Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(9) Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
(10) Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.
(11) Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1482 (Cy. 266); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 116, 4.5.2007, t. 9, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 dyddiedig 18 Tachwedd 2019 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin (OJ Rhif L 312, 3.12.19, t. 1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: