Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20093
1
Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20097 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
a
ym mharagraff (1)—
i
hepgorer y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;
ii
yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625” rhodder “phecyn Rheoliad 2017/625”;
iii
yn lle’r diffiniad o “pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—
ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/265”;
b
ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
1A
Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.
c
yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Onid yw’n ymddangos bod bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yn ôl y digwydd.
3
Yn rheoliad 22 (dehongli Rhan 3)—
a
yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—
ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio wedi eu rheoleiddio gan Erthygl 44 neu Erthygl 47(1)(d), (e) neu (f) o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad ydynt wedi eu rhestru ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd rheoli ar y ffin8;
b
yn y diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig”, hepgorer “yn Rheoliad 2017/625 neu”.
4
Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “a 45(1), (2) a (4)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “, 45(1), (2) a (4), a 49(1)”.
5
Yn rheoliad 36(2) (costau a ffioedd) ar ôl “y cyfeirir atynt yn”, mewnosoder “Erthygl 79(2)(a) ac”.
6
Yn rheoliad 41(1A) (tramgwyddau a chosbau), yn lle’r geiriau o “Erthygl 3” hyd at “cynhyrchu egin”, rhodder “Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628”.
7
Yn Rhan 4 (adennill treuliau), yn y lle priodol mewnosoder—
Ffioedd neu daliadau sy’n deillio o reolaethau swyddogol anghynlluniedig42A
Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.
8
Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
9
Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
10
Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.
11
Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.