xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—

(a)ym mharagraff (1)

(i)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”;

(ii)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (2);

ystyr “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol(3);

(b)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 882/2004, Rheoliad 183/2005 neu Reoliad 152/2009”, rhodder “Rheoliad 183/2005, Rheoliad 152/2009 a Rheoliad 2017/625”.

(3Yn rheoliad 19 (dadansoddiad ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mewn achosion pan nad oes dull priodol o ddadansoddi yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni’r dadansoddiad yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 34(1) a (2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2019/1793.

(4Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl—

(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer Rheoliad 882/2004 ac ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009;

(b)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

(2)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2127 dyddiedig 10 Hydref 2019 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dyddiad cymhwyso darpariaethau penodol Cyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC, 97/78/EC a 2000/29/EC (OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 111).

(3)

OJ L 277, 29.10.2019, t. 89, fel y’i diwygwyd ddiweddaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1540 dyddiedig 22 Hydref 2020 mewn perthynas â hadau sesamum sydd yn tarddu o India (OJ Rhif L 353, 23.10.20, t. 4).