Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE a fewnosodir yn yr offerynnau statudol y mae’r Rheoliadau hyn yn eu diwygio gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau UE hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2020.
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” (“the Community Regulations”), yn lle “, Rheoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625” rhodder “a phecyn Rheoliad 2017/625”;
(ii)
hepgorer y diffiniad sy’n dechrau ag “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;
(iii)
“ystyr “Pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/625”;”
(b)
“(1A)
Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.”
(3)
Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20093.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
hepgorer y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;
(ii)
yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625” rhodder “phecyn Rheoliad 2017/625”;
(iii)
“ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/265”;”;
(b)
“(1A)
Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.”
(c)
“(3)
Onid yw’n ymddangos bod bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yn ôl y digwydd.”
(3)
Yn rheoliad 22 (dehongli Rhan 3)—
(a)
“ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio wedi eu rheoleiddio gan Erthygl 44 neu Erthygl 47(1)(d), (e) neu (f) o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad ydynt wedi eu rhestru ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd rheoli ar y ffin8;”;
(b)
yn y diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig”, hepgorer “yn Rheoliad 2017/625 neu”.
(4)
Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “a 45(1), (2) a (4)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “, 45(1), (2) a (4), a 49(1)”.
(5)
Yn rheoliad 36(2) (costau a ffioedd) ar ôl “y cyfeirir atynt yn”, mewnosoder “Erthygl 79(2)(a) ac”.
(6)
Yn rheoliad 41(1A) (tramgwyddau a chosbau), yn lle’r geiriau o “Erthygl 3” hyd at “cynhyrchu egin”, rhodder “Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628”.
(7)
“Ffioedd neu daliadau sy’n deillio o reolaethau swyddogol anghynlluniedig42A.
Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.”
(8)
Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(9)
Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
(10)
Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.
(11)
Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 20164.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—
(a)
ym mharagraff (1)
(i)
hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”;
(ii)
“ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion 10;”
“ystyr “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol11;”
(b)
ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 882/2004, Rheoliad 183/2005 neu Reoliad 152/2009”, rhodder “Rheoliad 183/2005, Rheoliad 152/2009 a Rheoliad 2017/625”.
(3)
“(2)
Mewn achosion pan nad oes dull priodol o ddadansoddi yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni’r dadansoddiad yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 34(1) a (2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2019/1793.”
(4)
Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl—
(a)
hepgorer y cofnodion ar gyfer Rheoliad 882/2004 ac ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009;
(b)
“Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid”
“Rheoliad 2019/1793 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid”.
ATODLEN 1Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
“ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC12;ystyr “Rheoliad 178/2002” yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd13, fel y’i darllenir gyda Rheoliad 931/2011 a Rheoliad 208/2013;ystyr “Rheoliad 852/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd14 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005 a Rheoliad 210/2013;ystyr “Rheoliad 853/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid15 fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;ystyr “Rheoliad 1688/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden16;ystyr “Rheoliad 2073/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd17;ystyr “Rheoliad 2074/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200418;ystyr “Rheoliad 931/2011” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 931/2011 ar y gofynion olrheiniadwyedd a osodir gan Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid19;ystyr “Rheoliad 1169/2011” yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/200420;ystyr “Rheoliad 208/2013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 208/2013 ar ofynion olrheiniadwyedd ar gyfer egin a hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu egin21;ystyr “Rheoliad 210/2013” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor22;ystyr “Rheoliad 579/2014” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymu darpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr23;ystyr “Rheoliad 2015/1375” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig24;ystyr “Rheoliad 2017/185” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor25;Pecyn Rheoliad 2017/625
ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC26 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;ystyr “Rheoliad 2019/478” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin27;ystyr “Rheoliad 2019/624” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor28;ystyr “Rheoliad 2019/625” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl29;ystyr “Rheoliad 2019/626” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn30;ystyr “Rheoliad 2019/627” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol31;ystyr “Rheoliad 2019/628” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn32;ystyr “Rheoliad 2019/1012” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin33;ystyr “Rheoliad 2019/1013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb34;ystyr “Rheoliad 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli35;ystyr “Rheoliad 2019/1081” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin36;ystyr “Rheoliad 2019/1602” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan37;ystyr “Rheoliad 2019/1666” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb38;ystyr “Rheoliad 2019/1715” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system39;ystyr “Rheoliad 2019/1793” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/166040;ystyr “Rheoliad 2019/1873” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cydgysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd41.ystyr “Rheoliad 2019/2007” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin ac yn diwygio Penderfyniad 2007/275/EC42;ystyr “Rheoliad 2019/2074” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2074 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ynghylch rheolaethau swyddogol penodol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd i’r Undeb yn dilyn gwrthod mynediad gan drydedd wlad43;ystyr “Rheoliad 2019/2122” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, ac yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/201144;ystyr “Rheoliad 2019/2123” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion lle y caniateir cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol mewn pwyntiau rheoli ac y caniateir cynnal gwiriadau dogfennol o bell o safleoedd rheoli ar y ffin, a’r amodau y cynhelir y gwiriadau hynny oddi tanynt45;ystyr “Rheoliad 2019/2124” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb, ac yn diwygio Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 798/2008, (EC) Rhif 1251/2008, (EC) Rhif 119/2009, (EU) Rhif 206/2010, (EU) Rhif 605/2010, (EU) Rhif 142/2011, (EU) Rhif 28/2012, Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/759 a Phenderfyniad y Comisiwn 2007/777/EC46;ystyr “Rheoliad 2019/2126” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2126 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol penodol ar gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau, mesurau i’w cymryd yn dilyn cyflawni’r rheolaethau hynny a chategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin47;ystyr “Rheoliad 2019/2129” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2129 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer cymhwyso cyfraddau amlder unffurf ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i’r Undeb48;ystyr “Rheoliad 2019/2130” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2130 sy’n sefydlu rheolau manwl ar y gweithrediadau i’w cyflawni yn ystod, ac ar ôl, gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar anifeiliaid a nwyddau sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin49;ystyr “Rheoliad 2020/466” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/466 ar fesurau dros dro i atal risgiau i iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion a lles anifeiliaid yn ystod tarfu difrifol penodol ar systemau rheoli Aelod-wladwriaethau oherwydd clefyd y coronafeirws50;ystyr “Rheoliad 2020/1158” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1158 ar yr amodau sy’n llywodraethu mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n tarddu o drydedd wledydd yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf bŵer niwclear Chernobyl51.”
ATODLEN 2Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
“ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC52;ystyr “Rheoliad 999/2001” yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol53;ystyr “Rheoliad 178/2002” yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd54;ystyr “Rheoliad 852/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd55 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;ystyr “Rheoliad 853/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid56 fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005 a Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;ystyr “Rheoliad 1688/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden57;ystyr “Rheoliad 2073/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd58;ystyr “Rheoliad 2074/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200459;ystyr “Rheoliad 2017/185” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor60;Pecyn Rheoliad 2017/625
ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC61 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;ystyr “Rheoliad 2019/478” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin62;ystyr “Rheoliad 2019/624” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor63;ystyr “Rheoliad 2019/625” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl64;ystyr “Rheoliad 2019/626” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn65;ystyr “Rheoliad 2019/627” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol66;ystyr “Rheoliad 2019/628” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn67;ystyr “Rheoliad 2019/1012” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin68;ystyr “Rheoliad 2019/1013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb69;ystyr “Rheoliad 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli70;ystyr “Rheoliad 2019/1081” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin71;ystyr “Rheoliad 2019/1602” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan72;ystyr “Rheoliad 2019/1666” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb73;ystyr “Rheoliad 2019/1715” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system74;ystyr “Rheoliad 2019/1793” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/166075;ystyr “Rheoliad 2019/1873” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cydgysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd76;ystyr “Rheoliad 2019/2007” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin ac yn diwygio Penderfyniad 2007/275/EC77;ystyr “Rheoliad 2019/2074” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2074 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ynghylch rheolaethau swyddogol penodol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd i’r Undeb yn dilyn gwrthod mynediad gan drydedd wlad78;ystyr “Rheoliad 2019/2122” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, ac yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/201179;ystyr “Rheoliad 2019/2123” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion lle y caniateir cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol mewn pwyntiau rheoli ac y caniateir cynnal gwiriadau dogfennol o bell o safleoedd rheoli ar y ffin, a’r amodau y cynhelir y gwiriadau hynny oddi tanynt80;ystyr “Rheoliad 2019/2124” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb, ac yn diwygio Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 798/2008, (EC) Rhif 1251/2008, (EC) Rhif 119/2009, (EU) Rhif 206/2010, (EU) Rhif 605/2010, (EU) Rhif 142/2011, (EU) Rhif 28/2012, Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/759 a Phenderfyniad y Comisiwn 2007/777/EC81;ystyr “Rheoliad 2019/2126” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2126 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol penodol ar gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau, mesurau i’w cymryd yn dilyn cyflawni’r rheolaethau hynny a chategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin82;ystyr “Rheoliad 2019/2129” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2129 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer cymhwyso cyfraddau amlder unffurf ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i’r Undeb83;ystyr “Rheoliad 2019/2130” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2130 sy’n sefydlu rheolau manwl ar y gweithrediadau i’w cyflawni yn ystod, ac ar ôl, gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar anifeiliaid a nwyddau sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin84;ystyr “Rheoliad 2020/466 yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/466 ar fesurau dros dro i atal risgiau i iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion a lles anifeiliaid yn ystod tarfu difrifol penodol ar systemau rheoli Aelod-wladwriaethau oherwydd clefyd y coronafeirws85;ystyr “Rheoliad 2020/1158” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1158 ar yr amodau sy’n llywodraethu mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n tarddu o drydedd wledydd yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf bŵer niwclear Chernobyl86.”
ATODLEN 3Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 4 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
“ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL
Colofn 1
Colofn 2
Awdurdod Cymwys
Y darpariaethau yn Rheoliad 2017/625
Yr Asiantaeth
Erthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 11, 12, 15, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 37, 38, 39, 40, 42, 63(4)(a), 65(5), 66(6), 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 135, 137, 138, 140.
Yr awdurdod bwyd anifeiliaid
Erthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 135, 137, 138, 140.”
ATODLEN 4Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 5 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
“ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL
Colofn 1
Colofn 2
Awdurdod Cymwys
Y darpariaethau yn Rheoliad 2017/625
Yr Asiantaeth
Erthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 42, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57(3), 63(4)(a), 65(5), 66(6), 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.
Yr awdurdod bwyd
Erthyglau 4(2), 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.”
ATODLEN 5Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 6 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
“ATODLEN 6DARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG
Colofn 1
Colofn 2
Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE
Y cynnwys
Erthygl 69(1) o Reoliad 2017/625
Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i gyflawni’r holl fesurau y mae’r awdurdodau cymwys yn eu gorchymyn.
Erthygl 1 o Reoliad 2019/1013
Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys ynghylch y safle rheoli ar y ffin, o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir i’r llwyth gyrraedd.
Erthygl 3 o Reoliad 2019/1602
Gofyniad bod Dogfen Fynediad Iechyd Gyffredin (DFIG) i fynd gyda phob llwyth pa un a gaiff ei hollti yn y safle rheoli ar y ffin neu ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin ai peidio.
Erthygl 4(a) o Reoliad 2019/1602
Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda’r llwyth i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 4(b) o Reoliad 2019/1602
Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(1)(a) o Reoliad 2019/1602
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth hysbysu ymlaen llaw, i ddatgan mai’r safle rheoli ar y ffin yw’r gyrchfan yn y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan.
Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i ofyn am i’r llwyth gael ei hollti, a’i fod i gyflwyno, drwy’r IMSOC, DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 5(1)(d) o Reoliad 2019/1602
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn mynd gyda’r rhan berthnasol i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 5(1)(e) o Reoliad 2019/1602
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(2)(a) o Reoliad 2019/1602
Pan fo llwyth nad yw’n cydymffurfio i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i gyflwyno DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 6(a) o Reoliad 2019/1602
Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda phob rhan o’r llwyth a holltwyd hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 6(b) o Reoliad 2019/1602
Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 3(1) o Reoliad 2019/1666
Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi gwybod i’r awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y sefydliad yn y gyrchfan, fod y llwyth wedi cyrraedd, a hynny o fewn un diwrnod i’r adeg y mae’r llwyth yn cyrraedd.
Erthygl 6(1) o Reoliad 2019/2123
Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i’r pwynt rheoli a nodir yn y DFIG, neu benderfynu gwneud hynny, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gyflwyno’r llwyth ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol i bwynt rheoli gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i bwynt rheoli arall yn unol â phwynt (a) o Erthygl 3(1) a phwynt (a) o Erthygl 4(2).
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2123
Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth nodi rhif cyfeirnod y DFIG a gwblhawyd y cyfeirir ati yn Erthygl 6(3) yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG honno at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 6(1) of Reoliad 2019/2124
Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwythi a awdurdodir ar gyfer eu cludo ymlaen yn unol ag Erthygl 4 yn sicrhau: (a) yn ystod ei gludo i’r cyfleuster cludo ymlaen, a’i storio yn y cyfleuster hwnnw, nad ymyrrir â’r llwyth mewn unrhyw fodd; (b) nad yw’r llwyth yn ddarostyngedig i unrhyw addasu, prosesu, amnewid neu newid deunydd pecynnu; (c) nad yw’r llwyth yn gadael y cyfleuster cludo ymlaen hyd nes y bydd awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn gwneud y penderfyniad ynghylch y llwyth yn unol ag Erthygl 55 o Reoliad 2017/625.
Erthygl 6(2) o Reoliad 2019/2124
Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gludo’r llwyth o dan oruchwyliaeth tollau yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen, heb ddadlwytho’r nwyddau yn ystod eu cludo, a rhaid iddo storio’r llwyth yn y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2124
Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod copi, ar bapur neu ar ffurf electronig, o’r DFIG y cyfeirir ati yn Erthygl 3 yn mynd gyda’r llwyth o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(5) o Reoliad 2019/2124
Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn hysbysu’r awdurdodau cymwys yn y cyrchfan derfynol bod y llwyth wedi cyrraedd y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(6) o Reoliad 2019/2124
Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi ei gludo ymlaen i’r cyfleuster cludo ymlaen, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth ei gludo ymlaen i gyfleuster cludo ymlaen gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi’r newid yn unol ag Erthygl 4 ac ar yr amod y cydymffurfir â’r amodau a nodir ym mharagraffau 1 i 5 o Erthygl 6.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes diogelwch a hylendid bwyd anifeiliaid a bwyd er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.
Mae rheoliad 2 yn disodli ac yn diweddaru’r rhestr o Reoliadau’r UE a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol o ganlyniad i’r rhestr a ddiweddarwyd.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)).
Mae paragraffau (2) ac (8) yn disodli ac yn diweddaru’r rhestr o Reoliadau’r UE a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny, ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig a chanlyniadol o ganlyniad i’r rhestr a ddiweddwyd.
Mae paragraff (3) yn rhoi diffiniad diwygiedig o “cynnyrch” yn lle’r un blaenorol yn rheoliad 22. Mae paragraff (4) yn gwneud diwygiad canlyniadol o ganlyniad i’r diffiniad diwygiedig.
Mae paragraff (5) yn diwygio rheoliad 36 i wneud darpariaeth ar gyfer talu costau rheolaethau swyddogol o dan Erthygl 79(2)(a) o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â Rhan 3. Mae paragraff (7) yn mewnosod rheoliad 42A newydd yn Rhan 4 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer talu costau rheolaethau swyddogol o dan Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625.
Mae paragraff (6) yn diwygio rheoliad 41(1A) i ddisodli’r cyfeiriad at Erthygl 3 o Reoliad (EU) Rhif 211/2013, a ddiddymwyd ac a ddisodlwyd gan Reoliadau (EU) 2019/625 a 2019/628 (rhan o’r pecyn o Reoliadau a wnaed o dan Reoliad (EU) 2017/625).
Mae paragraffau (9) a (10) yn rhoi Atodlenni 4 a 5 newydd, yn y drefn honno, yn lle’r rhai blaenorol i gywiro gwallau yn yr Atodlenni presennol.
Mae paragraff (11) yn rhoi Atodlen 6 newydd yn lle’r un flaenorol i ddiweddaru’r rhestr o ‘darpariaethau mewnforio penodedig’.
Mae rheoliad 4 yn diweddaru cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387 (Cy. 121)). Yn benodol, mae’n disodli cyfeiriadau at Reoliad (EC) Rhif 882/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 669/2009, sydd yn ôl eu trefn wedi eu diddymu a’u disodli gan Reoliad (EU) 2017/625 a Rheoliad (EU) 2019/1793.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.