RHAN 1Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2021.
(3) Mae’r darpariaethau yn—
(a)rheoliadau 4(1), 4(2), 4(4) ac 11 yn cael effaith o 5 Rhagfyr 2005 ymlaen;
(b)rheoliad 12 yn cael effaith o 1 Ebrill 2006 ymlaen;
(c)rheoliad 7 yn cael effaith o 6 Ebrill 2006 ymlaen;
(d)rheoliad 3 yn cael effaith o 1 Ebrill 2007 ymlaen;
(e)rheoliadau 5 ac 8 yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2009 ymlaen;
(f)rheoliad 4(3) yn cael effaith o 13 Mawrth 2014 ymlaen;
(g)rheoliad 14 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen(1).
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae pŵer i roi effaith ôl-weithredol wedi ei roi gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972, adran 34(3) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a chan adran 3(3)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.