Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

2.—(1Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1—

(a)ym mharagraff (2), hepgorer “, ac eithrio rheoliadau 3 a 4,”;

(b)hepgorer paragraff (3).

(3Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraffau (a), (c), (d), (i), (j), (k) ac (o)—

(aa)yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(bb)hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â chytundeb masnach y Swistir” rhodder “o “(neu, mewn perthynas â” hyd at y diwedd”;

(iii)yn is-baragraff (d), yn lle’r is-baragraff (i) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—

(i)yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr, Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 2015(2);;

(iv)yn is-baragraffau (e), (f) ac (n), yn lle’r geiriau cyn y diffiniadau newydd sydd i’w mewnosod gan yr is-baragraffau hynny rhodder “ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—”;

(v)yn is-baragraff (g), yn lle’r diffiniad newydd o “gradd” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—

mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd Prydain Fawr;;

(vi)yn lle is-baragraff (h) rhodder—

(h)hepgorer y diffiniad o “Rhestr Genedlaethol”;;

(vii)yn is-baragraff (l), yn y diffiniad newydd o “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;

(viii)yn is-baragraff (m), yn lle “ym mharagraff (b) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”” rhodder

hepgorer paragraffau (b) ac (c) ac, ar y diwedd mewnosoder—

neu

(b)tatws hadyd a gynhyrchir mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi;;

(ix)yn is-baragraff (p), yn y diffiniad newydd o “gradd yr Undeb” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir” rhodder “yng Ngogledd Iwerddon”;

(x)yn lle is-baragraff (q) rhodder—

(q)ym mharagraff (1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “gradd gyfatebol” (“equivalent grade”) yw—

(a)

o ran Gogledd Iwerddon, radd Undeb gyfatebol;

(b)

o ran un o Diriogaethau Dibynnol y Goron neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi, radd a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru fel un sy’n cyfateb i un o raddau Prydain Fawr;;

ystyr “gradd Prydain Fawr” (“GB grade”) yw—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol ag Atodlen 4 wrth ardystio, sef—

(i)

yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC Prydain Fawr neu radd PB Prydain Fawr;

(ii)

yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd E Prydain Fawr;

(iii)

yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A Prydain Fawr neu radd B Prydain Fawr;

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr neu’r Alban, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol â’r rheoliadau tatws hadyd perthnasol;;

ystyr “gradd Undeb gyfatebol” (“equivalent Union grade”) yw—

(a)

o ran “Gradd PBTC Prydain Fawr”, “gradd PBTC yr Undeb”;

(b)

o ran “Gradd PB Prydain Fawr”, “gradd PB yr Undeb”;

(c)

o ran “Gradd S Prydain Fawr”, “gradd S yr Undeb”;

(d)

o ran “Gradd SE Prydain Fawr”, “gradd SE yr Undeb”;

(e)

o ran “Gradd E Prydain Fawr”, “gradd E yr Undeb”;

(f)

o ran “Gradd A Prydain Fawr”, “gradd A yr Undeb”;

(g)

o ran “Gradd B Prydain Fawr”, “gradd B yr Undeb”;;

ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod tatws hadyd o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn;;

ystyr “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” (“GB Variety List”) yw rhestr o amrywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol;;;

(xi)yn lle is-baragraff (r) rhodder—

(r)hepgorer paragraff (2);;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn rheoliad 4, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.;

(c)ym mharagraff (4)—

(i)yn y testun Saesneg, ar ôl “accordance with”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “to the end substitute”;

(ii)yn y paragraff (ii) newydd, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(iii)hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw;

(d)ym mharagraff (5)—

(i)o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(za)ym mharagraff (1)(a), yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;;

(ii)yn is-baragraff (b), yn y paragraff (3A) newydd, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;

(e)ym mharagraff (6), yn yr is-baragraff (c) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(f)ym mharagraff (7)—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)ym mharagraff (i), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;

(bb)ym mharagraff (ii), yn yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;;

(g)ym mharagraffau (8) a (9)—

(i)yn y paragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;

(ii)hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny;

(h)yn lle paragraff (10) rhodder—

(10) Yn rheoliad 16 ac yn y pennawd, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Ynysoedd Prydain”.;

(i)ym mharagraff (11), yn y rheoliad 23A newydd a’i bennawd, sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—

(i)yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(ii)ar ôl “label swyddogol”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig”;

(j)yn lle paragraff (12) rhodder—

(12) Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 3(a), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;

(b)ym mharagraffau 5, 6 a 10, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;

(c)ym mharagraff 8(b)—

(i)yn y testun Saesneg, yn lle “Union”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “GB”;

(ii)yn y testun Cymraeg—

(aa)ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “Prydain Fawr”;

(bb)ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “Prydain Fawr”; ac

(cc)ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “Prydain Fawr”.;

(k)ym mharagraff (13)—

(i)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;

(ii)yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)ym mharagraff 8(b)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;

(ii)ym mharagraff (vi), yn lle “Restr Genedlaethol” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;;

(iii)yn is-baragraffau (d)(ii) ac (e), yn lle “UK” rhodder “GB”, ac yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;

(l)ym mharagraff (14)(a) a (b), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;

(m)ym mharagraff (16)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;

(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;

(iii)yn lle is-baragraff (b)(ii) rhodder—

(ii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “PB” yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(b), yn lle “gradd PB yr Undeb” rhodder “gradd PB Prydain Fawr neu radd gyfatebol;”;

(n)ym mharagraff (17)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;

(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;

(iii)yn lle is-baragraff (b)(ii) i (iv) rhodder—

(ii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “S”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;

(iii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;

(iv)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “E”, yng ngholofn 2—

(aa)ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;

(bb)ym mharagraff (1)(b), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr, gradd E Prydain Fawr neu radd gyfatebol.;

(o)yn lle paragraff (18) rhodder—

(18) Yn Rhan 3, yn Nhabl 3—

(a)ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;

(b)yng ngholofn 2, yn lle “radd A yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “radd A Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;

(c)yng ngholofn 2, yn lle “radd B yr Undeb” rhodder “radd B Prydain Fawr neu radd gyfatebol.

(4Hepgorer rheoliadau 3 a 4.

(1)

O.S. 2019/738 (Cy. 141), a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1281 (Cy. 225), rheoliad 5: mae’r rheoliad hwnnw’n cael ei hepgor gan y Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2015/1953, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/288, O.S. 2019/472, O.S. 2019/1517 ac a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/809.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources