Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 20192
1
Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 20193 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 1—
a
ym mharagraff (2), hepgorer “, ac eithrio rheoliadau 3 a 4,”;
b
hepgorer paragraff (3).
3
Yn rheoliad 2—
a
ym mharagraff (2)—
i
yn is-baragraffau (a), (c), (d), (i), (j), (k) ac (o)—
aa
yn yr is-baragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
bb
hepgorer yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan bob un o’r is-baragraffau hynny;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â chytundeb masnach y Swistir” rhodder “o “(neu, mewn perthynas â” hyd at y diwedd”;
iii
yn is-baragraff (d), yn lle’r is-baragraff (i) newydd sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—
i
yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr, Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 20154;
iv
yn is-baragraffau (e), (f) ac (n), yn lle’r geiriau cyn y diffiniadau newydd sydd i’w mewnosod gan yr is-baragraffau hynny rhodder “ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—”;
v
yn is-baragraff (g), yn lle’r diffiniad newydd o “gradd” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw rhodder—
mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd Prydain Fawr;
vi
yn lle is-baragraff (h) rhodder—
h
hepgorer y diffiniad o “Rhestr Genedlaethol”;
vii
yn is-baragraff (l), yn y diffiniad newydd o “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
viii
yn is-baragraff (m), yn lle “ym mharagraff (b) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”” rhodder
hepgorer paragraffau (b) ac (c) ac, ar y diwedd mewnosoder—
neu
b
tatws hadyd a gynhyrchir mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi;
ix
yn is-baragraff (p), yn y diffiniad newydd o “gradd yr Undeb” sydd i’w fewnosod gan yr is-baragraff hwnnw, yn lle “mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir” rhodder “yng Ngogledd Iwerddon”;
x
yn lle is-baragraff (q) rhodder—
q
ym mharagraff (1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
ystyr “gradd gyfatebol” (“equivalentgrade”) yw—
- a
o ran Gogledd Iwerddon, radd Undeb gyfatebol;
- b
o ran un o Diriogaethau Dibynnol y Goron neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi, radd a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru fel un sy’n cyfateb i un o raddau Prydain Fawr;
ystyr “gradd Prydain Fawr” (“GB grade”) yw—
- a
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol ag Atodlen 4 wrth ardystio, sef—
- i
yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC Prydain Fawr neu radd PB Prydain Fawr;
- ii
yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd E Prydain Fawr;
- iii
yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A Prydain Fawr neu radd B Prydain Fawr;
- b
o ran tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr neu’r Alban, gradd Prydain Fawr a bennir yn unol â’r rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
ystyr “gradd Undeb gyfatebol” (“equivalent Uniongrade”) yw—
- a
o ran “Gradd PBTC Prydain Fawr”, “gradd PBTC yr Undeb”;
- b
o ran “Gradd PB Prydain Fawr”, “gradd PB yr Undeb”;
- c
o ran “Gradd S Prydain Fawr”, “gradd S yr Undeb”;
- d
o ran “Gradd SE Prydain Fawr”, “gradd SE yr Undeb”;
- e
o ran “Gradd E Prydain Fawr”, “gradd E yr Undeb”;
- f
o ran “Gradd A Prydain Fawr”, “gradd A yr Undeb”;
- g
o ran “Gradd B Prydain Fawr”, “gradd B yr Undeb”;
ystyr “gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” (“country granted equivalence”) yw gwlad y mae Gweinidogion Cymru wedi asesu bod tatws hadyd o’r wlad honno yn cael eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn;
ystyr “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr” (“GBVarietyList”) yw rhestr o amrywogaethau tatws a baratowyd ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol;
xi
yn lle is-baragraff (r) rhodder—
r
hepgorer paragraff (2);
b
yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Yn rheoliad 4, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.
c
ym mharagraff (4)—
i
yn y testun Saesneg, ar ôl “accordance with”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “to the end substitute”;
ii
yn y paragraff (ii) newydd, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
iii
hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw;
d
ym mharagraff (5)—
i
o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—
za
ym mharagraff (1)(a), yn lle “y Rhestr Genedlaethol” rhodder “Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
ii
yn is-baragraff (b), yn y paragraff (3A) newydd, yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Great Britain”;
e
ym mharagraff (6), yn yr is-baragraff (c) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
f
ym mharagraff (7)—
i
yn is-baragraff (a)—
aa
ym mharagraff (i), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;
bb
ym mharagraff (ii), yn yr is-baragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraff hwnnw, yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
ii
yn lle is-baragraff (b) rhodder—
b
ym mharagraff (6)(b), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
g
ym mharagraffau (8) a (9)—
i
yn y paragraff (ii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny, ar ôl “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” mewnosoder “neu wlad y caniatawyd cywerthedd iddi”;
ii
hepgorer y paragraff (iii) newydd sydd i’w fewnosod gan y paragraffau hynny;
h
yn lle paragraff (10) rhodder—
10
Yn rheoliad 16 ac yn y pennawd, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Ynysoedd Prydain”.
i
ym mharagraff (11), yn y rheoliad 23A newydd a’i bennawd, sydd i’w mewnosod gan y paragraff hwnnw—
i
yn lle “ar y diwrnod ymadael” rhodder “ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, yn lle “cyn y diwrnod ymadael” rhodder “cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” ac yn lle “y mae’r diwrnod ymadael” rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
ii
ar ôl “label swyddogol”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig”;
j
yn lle paragraff (12) rhodder—
12
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 3(a), yn lle “mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin” rhodder “yn Rhestr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
b
ym mharagraffau 5, 6 a 10, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
c
ym mharagraff 8(b)—
i
yn y testun Saesneg, yn lle “Union”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “GB”;
ii
yn y testun Cymraeg—
aa
ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “Prydain Fawr”;
bb
ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “Prydain Fawr”; ac
cc
ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “Prydain Fawr”.
k
ym mharagraff (13)—
i
yn is-baragraff (b)(i), yn lle “UK” rhodder “GB”;
ii
yn lle is-baragraff (c) rhodder—
c
ym mharagraff 8(b)—
i
ym mharagraff (i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;
ii
ym mharagraff (vi), yn lle “Restr Genedlaethol” rhodder “Restr Amrywogaethau Prydain Fawr”;
iii
yn is-baragraffau (d)(ii) ac (e), yn lle “UK” rhodder “GB”, ac yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
l
ym mharagraff (14)(a) a (b), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
m
ym mharagraff (16)—
i
yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
ii
yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
iii
yn lle is-baragraff (b)(ii) rhodder—
ii
yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “PB” yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(b), yn lle “gradd PB yr Undeb” rhodder “gradd PB Prydain Fawr neu radd gyfatebol
n
ym mharagraff (17)—
i
yn is-baragraff (a), yn lle “yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”” rhodder “yn lle “un o raddau’r Undeb” rhodder “un o raddau Prydain Fawr””;
ii
yn is-baragraff (b)(i), yn lle “y DU” rhodder “Prydain Fawr”;
iii
yn lle is-baragraff (b)(ii) i (iv) rhodder—
ii
yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “S”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
iii
yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
iv
yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “E”, yng ngholofn 2—
aa
ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
bb
ym mharagraff (1)(b), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S Prydain Fawr, gradd SE Prydain Fawr, gradd E Prydain Fawr neu radd gyfatebol.
o
yn lle paragraff (18) rhodder—
18
Yn Rhan 3, yn Nhabl 3—
a
ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
b
yng ngholofn 2, yn lle “radd A yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “radd A Prydain Fawr neu radd gyfatebol”;
c
yng ngholofn 2, yn lle “radd B yr Undeb” rhodder “radd B Prydain Fawr neu radd gyfatebol.
4
Hepgorer rheoliadau 3 a 4.