- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
17 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2, paragraff 7 o Atodlen 4, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru(2) ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Daw’r Rhan hon a Rhan 2 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) Daw Rhannau 3 a 4 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 2.
(3) Yn rheoliad 3 (diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Yn rheoliad 4(3) hepgorer “Cymunedol”.
(2B) Yn rheoliad 6(1)—
(a)hepgorer is-baragraff (a);
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “16(1)” rhodder “16”.”
(b)ym mharagraff (5), yn y rheoliad newydd 10A sydd i’w fewnosod—
(i)ym mharagraff (1), yn lle “yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004” rhodder “sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)”;
(ii)ym mharagraff (2), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;
(iii)ym mharagraff (3), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;
(c)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(6A) Yn rheoliad 27(1)(a)(i), yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).
(6B) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1, yn yr adran 10(1A) a amnewidiwyd, yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).”
(4) Hepgorer rheoliad 4.
(5) Yn yr Atodlen, yn yr Atodlen 5 newydd (datganiad o gydymffurfedd) sydd i’w mewnosod, ym mharagraff 1(a), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Cymru) 2019(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(3) (diwygio Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007), yn lle is-baragraff (c), rhodder—
“(c)ym mharagraff (4)—
(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig”.”
(3) Hepgorer rheoliadau 5 a 6.
(4) Yn rheoliad 7 (diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011)—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Yn rheoliad 3(1), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr””.
(b)Yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn rheoliad 8(3)(a)(i), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr””.
4.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 2.
(3) Hepgorer rheoliadau 4, 5, 6 a 7.
(4) Yn rheoliad 8 (diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015)—
(a)Ym mharagraff (3), yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)yn lle is-baragraff (d), rhodder—
“(d)ei fod yn ddŵr mwynol naturiol a fwriedir ar gyfer—
(i)ei symud i Ogledd Iwerddon; neu
(ii)ei allforio i drydedd wlad.””;
(b)yn lle paragraff (4)(a)(iii), rhodder—
“(iii)yn lle is-baragraff (d) rhodder—
“(d)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn trydedd wlad—
(i)pan fo’r Asiantaeth yn rhoi cydnabyddiaeth yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1;
(ii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn Lloegr a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 2007(7) a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;
(iii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yn yr Alban a roddir gan Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban yn unol â rheoliad 4(1)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Yr Alban) (Rhif 2) 2007(8), a Rhan 2 o Atodlen 3 iddynt;
(iv)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a roddir gan yr Asiantaeth yn unol â rheoliad 4(2)(d)(i) o Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 2015(9), a Rhan 2 o Atodlen 1 iddynt.”;”
(c)ym mharagraff 5, yn y rheoliad newydd 4A sydd i’w fewnosod—
(i)ym mharagraff (6), yn lle “mae’r diwrnod ymadael” rhodder “mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;
(ii)ym mharagraff (12), yn lle “y diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(d)yn lle paragraff (7), rhodder—
“(7) Yn rheoliad 27A—
(a)ym mharagraff (b)—
(i)hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;
(ii)yn lle “Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010” rhodder “y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig”;
(b)ym mharagraff (c)—
(i)yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;
(ii)yn lle’r geiriau o “a awdurdodwyd” i “Erthyglau 1 i 3” rhodder “sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 a 2””;
(e)ym mharagraff (8)(b), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
“(ia)ar ôl “yr Asiantaeth”, yn lle “neu” rhodder “ei bod yn cyfateb i ofynion y Rheoliadau hyn, neu gan””.
5.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen, yn Rhan 2, yn y tabl—
(a)Hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8.6;
(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn”, rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.
6.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (gofynion o dan Reoliad (EC) Rhif 178/2002: tramgwyddau), yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)Article 12 (food and feed exported from Great Britain) in so far as it relates to food;”.
7.—(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—
“ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig;”.
(3) Yn lle rheoliad 4 rhodder—
4. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros (“EUR”) i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd (“GBP”) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.”
(4) Yn lle’r pennawd i’r Atodlen, rhodder—
8.—(1) Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)—
(a)yn y diffiniad o “mewnforio”, yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad arall y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”;
(b)yn y diffiniad o “rhif cyfeirnod swyddogol”, yn lle “rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3)” rhodder “rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3”.
(3) Yn rheoliad 5(1)—
(a)Yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)ei fod wedi’i arbelydru yn un o’r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn Atodlen 3 neu Atodlen 4;”;
(b)Yn is-baragraff (ch), hepgorer “arall”.
(4) Yn lle’r pennawd i Atodlen 3, rhodder—
9. Yn Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009(14), yn lle’r pennawd i Atodlen 1, rhodder—
10.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig.”
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”;
(b)ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys”.
(4) Yn rheoliad 5(1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.
(5) Hepgorer rheoliadau 14, 15 a 16.
(6) Yn rheoliad 17—
(a)hepgorer paragraff (3);
(b)ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).
(7) Yn rheoliad 19(1)—
(a)yn is-baragraff (a), hepgorer “14, 15 neu”;
(b)yn is-baragraff (b)—
(i)hepgorer “14, 15 neu”;
(ii)yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.
(8) Yn rheoliad 20(2), hepgorer “neu reoliad 16”.
(9) Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” o’i flaen.
(10) Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).
(11) Hepgorer rheoliad 35(16).
(12) Yn rheoliad 41—
(a)ym mharagraff 1(b), hepgorer “neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35”;
(b)ar ôl paragraff 1(d) mewnosoder—
“(e)yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.”
(13) Yn Atodlen 6, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602, yn yr ail golofn, yn lle “IMSOC” rhodder “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol”.
11.—(1) Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2—
(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
(b)yn Rhan 2—
(i)ym mharagraff 2, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
(ii)ym mharagraff 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”.
12.—(1) Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013(18) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “o’r darpariaethau UE” rhodder “o ddarpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “darpariaethau UE” rhodder “darpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”.
(3) Yn rheoliad 8(2) (cymhwyso adrannau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990), yn nhestun adran 9 a addaswyd, yn lle “the EU requirements”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “the retained EU law requirements”.
13.—(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(b), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.
(3) Yn rheoliad 14(1)(d), yn lle “nhiriogaeth yr UE” rhodder “y Deyrnas Unedig”.
(4) Hepgorer rheoliad 15.
(5) Yn Atodlen 1—
(a)yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(b)Yn Nhabl 2—
(i)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a deellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg a Saesneg”;
(ii)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.
(6) Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—
(a)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;
(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(7) Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(8) Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—
(a)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “yn rhestr yr Undeb” rhodder “yn y rhestr ddomestig”;
(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
14.—(1) Mae Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 17—
(a)Ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer “Aelod-wladwriaeth neu drydedd”;
(ii)yn lle’r geiriau o “un o’r mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “y mynegiad “blend of honeys from more than one country”, neu geiriad yn Saesneg ag ystyr cyfatebol.”;
(b)ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “mynegiad “cyfuniad o felau o fwy nag un wlad”, neu geiriad yn Gymraeg ag ystyr cyfatebol.”
15.—(1) Mae Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (d), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (e), yn lle “wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “drydedd wlad”;
(b)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
“(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.”
16. Er gwaethaf dirymu rheoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (gan reoliad 10(11) o’r Rheoliadau hyn), mae unrhyw ddatganiad a wneir o dan reoliad 35 sydd mewn grym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn cael effaith ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu fel pe bai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol o dan Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd(22).
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2, paragraff 7 o Atodlen 4, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth ym maes diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae Rhan 2 yn cynnwys diwygiadau i ddarpariaethau is-ddeddfwriaeth Cymru sy’n ymwneud ag Ymadael â’r UE. Mae’r diwygiadau yn cynnwys cywiro gwallau a nodwyd, a darpariaeth sy’n ofynnol i weithredu’r Protocol o ran Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r UE. Mae Rhan 2 hefyd yn hepgor nifer o ddarpariaethau a oedd wedi eu cynnwys er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. O ran y darpariaethau sydd wedi eu hepgor, naill ai nid ydynt yn gymwys mwyach neu mae’r diwygiadau a wnaed gan y darpariaethau hynny wedi eu hamnewid gan ddiwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 3 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol ac i weithredu’r protocol o ran Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Mae nifer o’r diwygiadau yn cydgrynhoi ac yn diweddaru (gyda diwygiadau) darpariaethau a oedd wedi eu cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth flaenorol sy’n ymwneud ag Ymadael â’r UE sydd wedi eu hepgor yn Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth arbed.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p.16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am ddiffiniad o “devolved authority”. Mae diwygiadau i baragraff 1 o Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mewnosodwyd paragraff 11M o Atodlen 2 gan adran 22 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.
Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1.
O.S. 2019/434 (Cy. 102), a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2020/44 (Cy. 5).
O.S. 2007/2785, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1598, 2010/433, 2011/451, 2014/1855, 2018/352, 2019/526 a 2019/1488; a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan 2019/150, 2019/775 a 2019/778.
O.S.A. 2007/483 a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2009/273, 2010/89, 2011/1043, 2014/312, 2015/100, 2015/363 a 2017/287.
Rh. St. 2015 Rhif 365, a ddiwygiwyd gan Rh. St. 2017 Rhif 201; a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan Rh. St. Rhif 353.
O.S. 2004/3220 (Cy. 276), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/425 (Cy. 99) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2004/3279, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247) a 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 4(2) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/3462 (Cy. 307), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2018/806 (Cy. 162) a 2019/1481 (Cy. 265); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 5(4) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/1795 (Cy. 162), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2018/806 (Cy. 162); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/1557 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1480 (Cy. 264); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 3(3) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1482 (Cy. 266); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) a 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiadau hynny wedi eu hepgor, yn rhagolygol, gan reoliadau 3(3) a 5(4) o’r Rheoliadau hyn.
Gweler rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn ar gyfer datganiadau arbed darpariaethau a wneir o dan reoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 sydd mewn grym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
O.S. 2013/479 (Cy. 55), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2013/2493 (Cy. 242), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806 (Cy. 162).
O.S. 2013/2591 (Cy. 255), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/425 (Cy. 99) a 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiadau hynny wedi eu hepgor, yn y drefn honno, gan reoliadau 2(4) a 5(4) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1507 (Cy. 174), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
EUR 178/2002, fel y’i diwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/641.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: