Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3, 5, 7(b) i (e) a 9(b) i (d) yn cael eu gwneud o ganlyniad i gyflwyno Absenoldeb a Thâl Profedigaeth Rhiant ar gyfer rheini cymwys o dan bwerau y darperir ar eu cyfer yn Neddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 12, 14 a 17 i 22.

Mae’r diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 4 yn cael ei wneud o ganlyniad i Ddeddf Partneriaethau Sifil, Priodasau a Marwolaethau (Cofrestru etc) 2019 a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer partneriaethau sifil rhwng pobl o rywiau gwahanol. Mae’r diffiniad o “cwpl” wedi ei ddiwygio er mwyn cynnwys dau o bobl sy’n byw gyda’i gilydd fel pe baent yn bartneriaid sifil. Gwneir yr un diwygiad mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 13.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 6 yn cael eu gwneud i’r gofyniad rhagnodedig na chaniateir cynnwys personau sy’n cael eu trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr yng nghynllun awdurdod. Mae person yn cael ei drin fel rhywun nad yw ym Mhrydain Fawr os nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon. Rhaid peidio â thrin unrhyw berson fel rhywun sy’n preswylio fel arfer heb fod ganddo hawl perthnasol i breswylio. Mae rheoliad 6(a) ac (c) yn diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006 er mwyn rhoi cyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 yn eu lle, gan fod Rheoliadau 2016 yn dirymu Rheoliadau 2006. Mae rheoliad 6(b) yn darparu nad yw nifer o hawliau i breswylio a bennwyd ar gyfer gwladolion gwladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn cysylltiad ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r UE yn hawliau perthnasol i breswylio at ddibenion pennu a yw person yn preswylio fel arfer. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 15.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 7(a), 8, 9(a) a 10 yn cynyddu rhai o’r ffigyrau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 16, 23 a 24.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources