RHAN 2Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2I13

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

a

yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny, a

b

wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—

i

o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

ii

cyn 4.00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020.

2

Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.