Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1Cyflwyniad, adolygu a dod i ben
Enwi, cymhwyso a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio Rhan 6, i rym ar F120 Rhagfyr 2020.
(4)
Daw Rhan 6 i rym ar 23 Rhagfyr 2020.
Adolygu2.
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a)
erbyn 7 Ionawr 2021;
(b)
o leiaf unwaith yn y cyfnod rhwng 8 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021;
(c)
o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
Dod i ben3.
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021.
RHAN 2Lefelau o gyfyngiadau ar ymgynnull, ar deithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau a gwasanaethau
Lefelau o gyfyngiadau4.
(1)
Mae Atodlenni 1 i 4 yn nodi cyfyngiadau a gofynion a all fod yn gymwys mewn ardal mewn perthynas ag—
(a)
cynulliadau;
(b)
trefnu digwyddiadau;
(c)
teithio i ardaloedd eraill ac o ardaloedd eraill;
(d)
defnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer yn agored i’r cyhoedd.
(2)
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 1.
(3)
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 2.
(4)
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3.
(5)
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4.
(6)
Mae Atodlen 5 yn nodi pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal drwy bennu lefel ar gyfer yr ardal honno.
F2(6A)
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn un o Atodlenni 1 i 4 yn gymwys i ardal yn ddarostyngedig i’r addasiadau dros dro a bennir mewn perthynas â’r ardal honno yn Atodlen 5.
F3(7)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8)
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
“ardal Lefel Rhybudd 1” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 1;
(b)
“ardal Lefel Rhybudd 2” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 2;
(c)
“ardal Lefel Rhybudd 3” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 3;
(d)
“ardal Lefel Rhybudd 4” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 4.
RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.
PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath
Dehongli’r Rhan5.
(1)
Yn y Rhan hon, ystyr “cysylltiad agos” yw cysylltiad y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ystyried y gall arwain at risg o haint neu halogiad â’r coronafeirws, gan gynnwys—
(a)
dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â pherson o bellter o lai nag 1 metr;
(b)
treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i berson;
(c)
teithio mewn car neu gerbyd bach arall gyda pherson neu’n agos i berson ar awyren neu yn yr un cerbyd mewn trên.
(2)
(3)
At ddibenion y Rhan hon, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—
(a)
gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)
cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(4)
At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw hysbysiad drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysiad.
Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirws6.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
(2)
(3)
Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—
(a)
am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a
(b)
am gyfeiriad y man hwnnw.
(4)
Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5)
Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.
Gofyniad i ynysu: plentyn â’r coronafeirws7.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
(2)
(3)
Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—
(a)
am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
(b)
am gyfeiriad y man hwnnw.
(4)
Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5)
Ond mewn achos pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf.
Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolyn8.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
(2)
(3)
Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.
(4)
Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5)
Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—
(a)
pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;
(b)
pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentyn9.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
(2)
(3)
Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.
(4)
Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5)
Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—
(a)
pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu
(b)
pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
Gofynion ynysu: eithriadau cyffredinol10.
(1)
(2)
Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i—
(a)
ceisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hyn ar frys neu ar gais ymarferydd meddygol cofrestredig;
(b)
cael gafael ar wasanaethau milfeddygol—
(i)
pan fo eu hangen ar frys, a
(ii)
pan na fo’n bosibl i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw gael gafael ar y gwasanaethau hynny;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny heb ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw;
(d)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(e)
am resymau tosturiol, gan gynnwys mynd i angladd—
(i)
aelod o’r teulu;
(ii)
ffrind agos;
(f)
cael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y man lle y mae’r person yn byw neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y man hwnnw) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol—
(i)
i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw eu cael, neu
(ii)
eu cael drwy eu danfon i’r man hwnnw gan drydydd parti;
(g)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—
(i)
pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant y person, a
(ii)
pan na fo’r gwasanaeth yn gallu cael ei ddarparu os yw’r person yn aros yn y man lle y mae’r person yn byw;
(h)
symud i fan gwahanol i fyw pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw;
(i)
pan fo’r person yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni’r plentyn, neu un o rieni’r plentyn, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld y plentyn a rhieni’r plentyn, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu sy’n gofalu amdano.
(3)
(4)
Nid yw rheoliad 6(2) yn gymwys i berson—
(a)
sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod astudiaeth ymchwil (y “prawf blaenorol”), a
(b)
sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod yr un astudiaeth o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y prawf blaenorol.
Gofynion ynysu: eithriad ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mewn cynllun profi11.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—
(a)
(b)
bo P yn cytuno i gymryd rhan mewn cynllun profi.
(2)
Os yw prawf cyntaf P o dan y cynllun profi yn negatif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).
(3)
Os yw canlyniad prawf a gymerir gan P o dan y cynllun profi yn bositif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf fel pe na bai wedi peidio â bod yn gymwys yn rhinwedd y paragraff (2).
(4)
Er gwaethaf paragraff (2), mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P ar—
(a)
diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau prawf;
(b)
unrhyw ddiwrnod y mae’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun ond y mae’n methu â gwneud hynny.
(5)
Os yw P yn cael canlyniad negatif am y coronafeirws yn ei brawf olaf o dan y cynllun profi, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r cynharaf o—
(a)
yr adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, neu
(6)
Pan fo P yn blentyn—
(a)
rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros P gytuno ar ran P fod P i gymryd rhan mewn cynllun profi;
(7)
Yn y rheoliad hwn—
(a)
ystyr “cynllun profi” yw cynllun sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru y mae’n ofynnol odano i P gymryd nifer o brofion am y coronafeirws a bennir yn y cynllun, ar ddyddiadau ac mewn modd a bennir felly;
(b)
ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod prawf” yw diwrnod, rhwng y diwrnod y mae P yn cymryd y prawf cyntaf a’r prawf olaf o dan y cynllun, nad yw’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun.
F4Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol11A.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(b)
(c)
wedi bod F9yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania o fewn y cyfnod hwnnw.
(2)
Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod F10yr oedd P F11yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania ddiwethaf .
(3)
Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—
(a)
am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
(b)
am gyfeiriad y man hwnnw.”
F12(4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F13Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar F1429 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorol11AA.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yng Nghymru am 4.00 a.m. ar F1529 Ionawr 2021,
(b)
wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar F1629 Ionawr 2021, ac
(c)
wedi bod mewn gwlad restredig o fewn y cyfnod hwnnw.
(2)
Oni bai bod rheoliad 11B yn gymwys, ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle y mae’n byw neu fod y tu allan iddo tan ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf.
(3)
Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i P hysbysu’r swyddog olrhain cysylltiadau—
(a)
am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
(b)
am gyfeiriad y man hwnnw.
F17(4)
At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig—
(a)
Gweriniaeth Burundi;
(b)
Gweriniaeth Rwanda;
(c)
Yr Emiraethau Arabaidd Unedig.
F18(5)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F19Gofyniad i ynysu: eithriad penodol ar gyfer pobl sydd wedi bod F20mewn gwledydd penodol11B.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 11A(2) F21neu 11AA(2).
(2)
Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo—
(a)
i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(b)
os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;
(c)
er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol F22, risg arall o niwed difrifol neu i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol .
Gofyniad ar bersonau a chanddynt gyfrifoldeb dros blant12.
Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnol13.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—
(b)
yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.
(2)
Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.
PENNOD 2Gwybodaeth
Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaeth14.
(1)
Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—
(a)
at ddibenion—
(i)
cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)
atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)
monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)
at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(2)
Gwybodaeth berthnasol yw—
(a)
(i)
gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plentyn;
F25(aa)
pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11A(2), gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plenty.
(b)
cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif am y coronafeirws ac enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, enw a manylion cyswllt oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn yn ogystal ag enw a dyddiad geni’r plentyn.
(3)
Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—
(a)
at ddibenion—
(i)
cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)
atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)
monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)
at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(4)
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu hynny o wybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—
(a)
at ddibenion—
(i)
cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)
atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)
monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)
at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(5)
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—
(a)
rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na
(b)
unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).
(6)
Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.
(7)
Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
(8)
RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig
Mangreoedd rheoleiddiedig a phersonau cyfrifol15.
(1)
At ddibenion y Rheoliadau hyn, y canlynol yw “mangreoedd rheoleiddiedig”—
(a)
mangreoedd busnesau neu wasanaethau a restrir yn Atodlen 7, i’r graddau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt;
(b)
cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;
(c)
mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud.
(2)
Yn y Rhan hon, ystyr “person cyfrifol”, mewn perthynas â mangre reoleiddiedig, yw—
(a)
(b)
mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.
Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws16.
(1)
At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—
F26(za)
cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre ac, wrth wneud hynny, ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny;
(a)
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i)
y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);
(ii)
pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),
(b)
cymryd pob mesur rhesymol arall at y diben hwnnw, er enghraifft mesur sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
(i)
newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii)
rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii)
rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv)
fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
(v)
gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi)
darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c)
darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(2)
Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—
(a)
peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b)
cau rhan o’r fangre;
(c)
caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, am gyfnod—
(i)
a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(ii)
a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;
(d)
casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
(i)
Gweinidogion Cymru;
(ii)
swyddog olrhain cysylltiadau;
(e)
cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.
F27(3)
Rhaid i asesiad o dan baragraff (1)(za)—
(a)
bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (“Rheoliadau 1999”), a
(b)
cael ei gynnal—
(i)
pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a
(ii)
pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.
(4)
At ddibenion paragraff (3)—
(a)
mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle “by or under the relevant statutory provisions F28...”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a
(b)
os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (3)(b)(ii)—
(i)
mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a
(ii)
mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (3)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.
Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedig17.
F29(1)
Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—
(a)
cael person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ac sy’n dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;
(b)
ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—
(i)
pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,
(ii)
pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a
(iii)
pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.
(3)
Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.
(4)
Nid yw paragraff F30(2) yn gymwys i—
(a)
ffreuturau yn y gweithle, neu
(b)
mangreoedd mewn sefydliad addysgol.
(5)
At ddibenion paragraff (1)—
(a)
nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;
(b)
mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.
(6)
Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
F31Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthu17A.
Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—
(a)
mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;
(b)
darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;
(c)
mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;
(d)
er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—
(i)
arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;
(ii)
gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.
Canllawiau ynghylch cymryd mesurau rhesymol18.
(1)
(2)
O ran Gweinidogion Cymru—
(a)
cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a
(b)
rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(3)
Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
(4)
Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)
(b)
i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.
RHAN 5Gorchuddion wyneb
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus19.
(1)
Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
(2)
Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)
pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
(b)
pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
(3)
Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a)
pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)
mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
(c)
ar fferi—
(i)
pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
(ii)
pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
(d)
ar long fordeithio;
(e)
pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
(i)
ar ei ben ei hunan, neu
(ii)
gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
(f)
pan—
(i)
caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(ii)
na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
(iii)
bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
(g)
ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;
(h)
ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
(4)
Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)
(b)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(c)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;
(d)
pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(e)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)
cymryd meddyginiaeth;
(ii)
bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
(f)
pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
(i)
swyddog gorfodaeth, neu
(ii)
gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
(5)
Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
(6)
At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
(a)
cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
(b)
hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do20.
(1)
Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt.
(2)
Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)
pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)
pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).
(3)
Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)
pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
(b)
pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;
(c)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(d)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;
(e)
pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(f)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)
cymryd meddyginiaeth;
(ii)
bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;
(g)
pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;
(h)
pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.
Canllawiau ynghylch gofynion i wisgo gorchuddion wyneb21.
(1)
Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 19 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—
(a)
(2)
O ran Gweinidogion Cymru—
(a)
cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a
(b)
rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(3)
Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
(4)
Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)
paragraff (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(b)
paragraff (2) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.
RHAN 6Darparu addysg mewn ysgol
Darparu addysg mewn ysgol i ddisgyblion penodol pan fo mangreoedd ysgolion ar gau22.
(1)
Mae paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â disgybl perthnasol—
(a)
os yw mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau i’r disgybl hwnnw am gyfnod o 3 diwrnod ysgol yn olynol o leiaf, a
(b)
os yw’r cau mewn ymateb i fygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad y coronafeirws.
(2)
At ddibenion paragraff (1), ystyr “disgybl perthnasol” yw disgybl cofrestredig—
(a)
y mae’r awdurdod lleol priodol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried ei fod yn blentyn i weithiwr hanfodol, neu
(b)
y mae perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried y dylai’r disgybl fynd i’r ysgol oherwydd ei hyglwyfedd.
(3)
Rhaid i berchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi wneud trefniadau i’r disgybl fynd i fangre ysgol at ddiben darparu addysg ar y trydydd diwrnod ysgol a phob diwrnod ysgol dilynol yn y cyfnod pan fydd mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau.
(4)
Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys os, ar y diwrnod ysgol o dan sylw—
(a)
(b)
os yw’r disgybl yn ynysu fel arall ar ôl—
(i)
cael ei hysbysu drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu
(ii)
cael ei gynghori i wneud hynny gan berchennog yr ysgol lle y mae’r disgybl wedi ei gofrestru neu gan ddarparwr gofal plant.
(5)
(6)
Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch nodi plant gweithwyr hanfodol.
Methiant i gydymffurfio â rheoliad 2223.
Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â rheoliad 22 yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.
Dehongli’r Rhan hon24.
Yn y Rhan hon—
(a)
(b)
mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
(c)
(d)
mae i “disgybl” yr un ystyr â “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996;
(e)
mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;
(f)
mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996;
(g)
ystyr “ysgol” yw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion;
(h)
mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i “school day” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
RHAN 7Gorfodi
Swyddogion gorfodaeth25.
(1)
At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 8, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol—
(a)
at ddibenion y Rheoliadau hyn,
(b)
(c)
o dan reoliad 21(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(d)
o dan reoliad 25(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.
(2)
(a)
cwnstabl,
(b)
swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,
(c)
person sydd wedi ei ddynodi gan—
(i)
Gweinidogion Cymru, neu
(ii)
awdurdod lleol,
at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu
(d)
person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—
(i)
(ii)
rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,
(iii)
rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu
(iv)
o dan reoliad 25(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
(ond gweler paragraff (3)).
(3)
Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond—
(a)
mewn perthynas â thorri gofyniad (neu achos honedig o’i dorri) yn—
(b)
o dan ac yn rhinwedd Atodlen 8.
Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliol26.
Hysbysiadau cydymffurfio27.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn—
(a)
rheoliad 19(5),
(2)
Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.
Pwerau symud a gwasgaru: cynulliadau a bod oddi cartref28.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat yn groes i—
(a)
paragraff 1(1) o Atodlen 1,
(b)
paragraff 1(1) o Atodlen 2,
(c)
paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu
(d)
paragraff 2(1) o Atodlen 4.
(2)
Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)
cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)
os oes gan y swyddog sail resymol dros amau nad yw’r person yn byw yn yr annedd—
(i)
cyfarwyddo’r person i ymadael â’r annedd;
(ii)
symud y person o’r annedd.
(3)
Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn man ac eithrio annedd breifat yn groes i—
(a)
paragraff 2(1) o Atodlen 1,
(d)
paragraff 2(1) o Atodlen 4.
(4)
Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)
cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)
cyfarwyddo’r person i ymadael â’r man lle y mae’r cynulliad yn digwydd;
(c)
symud y person o’r man hwnnw.
(5)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’r person yn byw yn groes i baragraff 1(1) o Atodlen 4, caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;
(b)
symud y person i’r man hwnnw.
Pwerau sy’n ymwneud â chyfyngiadau teithio29.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin mynd i ardal yn groes i—
(a)
paragraff 6(1) o Atodlen 1,
(b)
paragraff 6(1) o Atodlen 2,
(c)
paragraff 6(1) o Atodlen 3, neu
(d)
paragraff 6(1) o Atodlen 4.
(2)
Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r ardal.
(3)
Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person mewn ardal yn groes i—
(a)
paragraff 6(1) o Atodlen 1,
(b)
paragraff 6(1) o Atodlen 2,
(c)
paragraff 6(1) o Atodlen 3, neu
(d)
paragraff 6(1) o Atodlen 4.
(4)
Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)
cyfarwyddo’r person i ymadael â’r ardal;
(b)
symud y person o’r ardal.
(5)
Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael ag ardal yn groes i—
(a)
paragraff 6(2) o Atodlen 1,
(b)
paragraff 6(2) o Atodlen 2, neu
(c)
paragraff 6(2) o Atodlen 3.
(6)
Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â’r ardal.
(7)
Mae paragraff (8) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael ag ardal yn groes i—
(a)
paragraff 6(2) o Atodlen 1,
(b)
paragraff 6(2) o Atodlen 2, neu
(c)
paragraff 6(2) o Atodlen 3.
(8)
Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)
cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r ardal;
(b)
dychwelyd y person i’r ardal.
Pwerau sy’n ymwneud â thorri gofyniad ynysu30.
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 6(2), 7(2), 8(2) F39, 9(2) F40, 11A(2) neu 11AA(2), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;
(b)
symud y person i’r man hwnnw.
Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadau31.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—
(a)
yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);
(2)
Caiff y swyddog gorfodaeth—
(a)
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(b)
symud P o leoliad y digwyddiad;
(c)
cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
(d)
symud unrhyw berson o’r digwyddiad;
(e)
pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—
(i)
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;
(ii)
symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.
(3)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2, paragraff 5 o Atodlen 3 neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;
(b)
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(c)
symud P o leoliad y digwyddiad;
(d)
cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;
(e)
symud unrhyw berson o’r digwyddiad.
Gorfodi gofynion gorchuddion wyneb32.
(1)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;
(b)
symud y person o’r cerbyd.
(2)
Pan fo gan—
(a)
gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(b)
cyflogai i’r gweithredwr, neu
(c)
person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,
sail resymol dros amau bod person ar fin torri rheoliad 19(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.
(3)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 20(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r fangre;
(b)
symud y person o’r fangre.
Gorfodi: plant33.
(1)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) y caiff y swyddog arfer pŵer mewn cysylltiad ag ef o dan y Rhan hon yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
caiff y swyddog gyfarwyddo U i gymryd unrhyw gamau gweithredu mewn cysylltiad â P y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(2)
At ddibenion paragraff (1), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—
(a)
gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)
cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
Pŵer mynediad34.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—
(a)
os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a
(b)
os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.
(2)
Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.
(3)
Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
(a)
os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;
(b)
os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
(4)
Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.
Pŵer yr heddlu i gynnal archwiliadau ar y ffyrdd35.
(1)
(2)
Caiff cwnstabl gynnal archwiliad ar y ffordd at ddiben canfod a yw cerbyd yn cario person y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol—
(a)
ei fod wedi cyflawni, neu
(b)
ei fod yn bwriadu cyflawni
trosedd o dan y Rheoliadau hyn.
(3)
Rhaid i archwiliad ar y ffordd gael ei awdurdodi gan gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch.
(4)
Ond caiff cwnstabl o dan y rheng honno awdurdodi archwiliad ar y ffordd os yw’r cwnstabl yn ystyried ei fod yn angenrheidiol fel mater o frys.
(5)
Caiff cwnstabl awdurdodi archwiliad ar y ffordd os oes gan y cwnstabl sail resymol dros gredu bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn yr ardal y byddai cerbydau’n cael eu stopio ynddi, neu ar fin bod yn yr ardal honno.
(6)
Rhaid i awdurdodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—
(a)
yr ardal y mae cerbydau i’w stopio ynddi;
(b)
y cyfnod, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, pan ganiateir cynnal yr archwiliad ar y ffordd;
(c)
a yw’r archwiliad ar y ffordd i’w gynnal—
(i)
yn barhaus drwy gydol y cyfnod, neu
(ii)
ar adegau penodol yn ystod y cyfnod (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r awdurdodiad bennu’r adegau hynny);
(d)
enw’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad.
(7)
Pan fo archwiliad ar y ffordd wedi ei awdurdodi o dan baragraff (4)—
(a)
ni chaiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (6)(b) fod yn hwy na 2 ddiwrnod;
(b)
rhaid i’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r awdurdodiad, roi gwybod i gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch ei fod wedi ei roi.
(8)
Caiff cwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch roi awdurdodiad yn ysgrifenedig i archwiliad ar y ffordd barhau am gyfnod pellach, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, y tu hwnt i’r cyfnod yr awdurdodwyd yr archwiliad ar y ffordd amdano yn wreiddiol.
(9)
Pan fo cerbyd yn cael ei stopio yn ystod archwiliad ar y ffordd, mae gan y person sy’n gyfrifol am y cerbyd ar yr adeg pan yw’n cael ei stopio hawlogaeth i gael datganiad ysgrifenedig am ddiben yr archwiliad ar y ffordd drwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig—
(a)
i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle y cynhelir yr archwiliad ar y ffordd, a
(b)
heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis o’r diwrnod pan stopiwyd y cerbyd.
Gorfodi: darpariaeth atodol36.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.
(2)
Caiff y camau gweithredu a gymerir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried—
(i)
ei bod neu ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog i benderfynu pa un ai i arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, neu
(ii)
ei bod neu ei fod yn berthnasol fel arall i arfer pŵer o’r fath;
(b)
cyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(3)
Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—
(a)
rheoliad 28(2)(b)(ii), (4)(c) neu (5)(b);
(f)
rheoliad 34(1).
(4)
Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
(5)
Yn y Rhan hon a Rhan 8, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.
RHAN 8Troseddau a chosbau
PENNOD 1Troseddau
Troseddau sy’n ymwneud â chynulliadau a bod oddi cartref37.
(1)
Mae person sy’n torri gofyniad yn—
yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—
(a)
sy’n digwydd mewn annedd breifat,
(b)
lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac
(c)
lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i—
(i)
paragraff 1(1) o Atodlen 1,
(ii)
paragraff 1(1) o Atodlen 2,
(iii)
paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu
(iv)
paragraff 2(1) o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
Troseddau cyfyngiadau teithioF4138.
Mae person sy’n torri gofyniad yn—
(d)
paragraff 6(1) o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
Troseddau sy’n ymwneud â threfnu digwyddiadau39.
(1)
Mae person sy’n torri gofyniad yn—
(a)
paragraff 4 o Atodlen 1,
(b)
paragraff 4 o Atodlen 2,
(c)
paragraff 4 o Atodlen 3,
(d)
paragraff 4 o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu yn cyflawni trosedd.
(3)
At ddibenion paragraff (2)—
(a)
ystyr “digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—
(i)
y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,
(ii)
lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a
(iii)
lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—
(aa)
(bb)
nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno);
(b)
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol mawr sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.
Troseddau sy’n ymwneud â gofynion ynysu ac olrhain cysylltiadau40.
(1)
Mae person sydd—
(b)
yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—
(b)
ynghylch—
(i)
gwybodaeth gyswllt P, neu
(ii)
personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,
pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.
(3)
Ym mharagraff (2), mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 3.
Trosedd o fethu â gwisgo gorchudd wyneb41.
Troseddau sy’n ymwneud â busnesau a gwasanaethau42.
(1)
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn—
yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 19(5) yn cyflawni trosedd.
(3)
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad yn cyflawni trosedd.
(4)
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 8 yn cyflawni trosedd.
(5)
Mae person sydd—
(a)
yn torri paragraff 3(2) o Atodlen 8, neu
(b)
heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,
yn cyflawni trosedd.
Rhwystro a thorri cyfarwyddydau a hysbysiadau cydymffurfio43.
(1)
Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
(a)
yn torri cyfarwyddyd a roddir—
(i)
gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu
(ii)
gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 32(2), neu
(b)
yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 27(1),
yn cyflawni trosedd.
Cosb44.
Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
Arestio heb warant45.
(a)
cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)
cynnal trefn gyhoeddus.
Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.46.
(1)
Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—
(a)
wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu
(b)
i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
(3)
Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
(4)
Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
(5)
(6)
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.
(7)
Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y corff.
PENNOD 2Cosbau penodedig
Hysbysiadau cosb benodedig47.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)
ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
(b)
ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2)
Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)
awdurdod lleol, neu
(b)
person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
a bennir yn yr hysbysiad.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4)
Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan—
(a)
rheoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(b)
rheoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,
(c)
rheoliad 31 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(d)
rheoliad 37 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(5)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.
(6)
Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)
ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)
ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
Swm cosb benodedig: cyffredinol48.
(1)
(a)
£60, neu
(b)
os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hybysiad, £30.
(2)
Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig o’r fath iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)
nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)
y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—
(i)
yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;
(ii)
yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;
(iii)
yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;
(iv)
yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;
(v)
yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.
(3)
Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—
(a)
hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;
(b)
hysbysiad cosb benodedig o dan—
(i)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(ii)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 21(7A) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(iii)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 31(8) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(iv)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 39, 40, 41 neu 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(v)
Swm cosb benodedig: cymryd rhan mewn cynulliad mawr mewn annedd breifat49.
Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(2), swm y gosb benodedig yw £60.
Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad50.
(1)
Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(1), swm y gosb benodedig yw £500.
(2)
Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)
nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)
swm y gosb benodedig yw—
(i)
yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,000;
(ii)
yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;
(iii)
yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £4,000.
(3)
Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—
(a)
hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;
(b)
hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 40 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.
Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad cerddoriaeth sydd heb ei drwyddedu51.
Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(2), swm y gosb benodedig yw £10,000.
Swm cosb benodedig: troseddau sy’n gysylltiedig â busnes52.
(1)
(2)
Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.
(3)
Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)
nid yw paragraff (2) yn gymwys, a
(b)
swm y gosb benodedig yw—
(i)
yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;
(ii)
yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;
(iii)
yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.
(4)
Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—
(a)
hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig;
(b)
hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.
Cosbau penodedig: ffurf a gweithdrefn53.
(1)
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)
rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
(b)
datgan y cyfnod pryd (oherwydd rheoliad 47(6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(d)
datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)
pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(2)
(3)
Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(4)
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)
sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)
yr awdurdod lleol, neu
(ii)
y person sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 47(2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)
sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.
Hysbysiadau cosb benodedig: gwahardd cosbi ddwywaith54.
(1)
Pan fo’r un weithred neu anweithred, neu fwy neu lai yr un weithred neu anweithred, gan berson yn gallu arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni mwy nag un drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ni chaniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i’r person ond mewn cysylltiad ag un o’r troseddau honedig.
(2)
PENNOD 3Achosion
Hunanargyhuddo55.
(1)
Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.
(2)
(a)
ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a
(b)
ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.
(3)
Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)
os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu
(b)
os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.
(4)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—
(a)
gwybodaeth sy’n wybodaeth berthnasol at ddibenion rheoliad 14;
(b)
gwybodaeth, neu’r ateb i gwestiwn, a roddir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan reoliad 36(1);
(c)
unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen neu gofnodion electronig a ddangosir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff 8(1) o Atodlen 8.
Erlyn56.
(1)
Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—
(a)
y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,
(b)
unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu
(c)
mewn perthynas ag achos am drosedd o dan reoliad 42, awdurdod lleol.
(2)
Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)
rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(b)
rheoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,
(c)
rheoliad 32 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(d)
rheoliad 46 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.
RHAN 9Cyffredinol
Dehongli57.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
(b)
ystyr “seremoni briodas arall” yw seremoni—
(i)
sy’n seiliedig ar ffydd neu gred person, neu ei ddiffyg cred, i nodi uniad dau o bobl, ac eithrio seremoni at ddibenion gweinyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,
(ii)
a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, a
(iii)
a drefnir gan sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol;
(c)
ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—
(i)
(ii)
y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu
(iii)
(d)
ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;
(e)
ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);
(f)
ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—
(i)
(ii)
person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,
(g)
ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
F49(h)
ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—
(i)
sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
(ii)
sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—
(aa)
y Rheoliadau hyn,
(bb)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(cc)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,
(dd)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(ee)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
(iii)
sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020,
(iv)
sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, neu
(v)
sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020;
(i)
ystyr “digwyddiad chwaraeon elît” yw digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;
(j)
ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;
(k)
ystyr “busnes bwyd a diod” yw—
(i)
bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau);
(ii)
tafarndai;
(iii)
caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau);
(l)
ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—
(i)
wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(ii)
yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(m)
ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn—
(i)
safleoedd gwersylla;
(ii)
safleoedd gwyliau;
(iii)
gwestai a llety gwely a brecwast;
(iv)
llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio);
(n)
ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(o)
(p)
mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
(q)
mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;
(r)
ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;
(s)
mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(1);
(t)
ystyr “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau” yw—
(i)
(ii)
(iii)
Gogledd Iwerddon;
(u)
ystyr “aelwyd un oedolyn” yw—
(i)
aelwyd sydd ag 1 oedolyn (ac unrhyw nifer o blant), neu
(ii)
aelwyd sydd ag—
(aa)
1 oedolyn sydd â chyfrifoldebau gofalu am 1 oedolyn arall neu ragor ar yr aelwyd,
(bb)
yr oedolyn neu’r oedolion y gofelir amdanynt,
(cc)
dim oedolion eraill, a
(dd)
unrhyw nifer o blant;
(v)
mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;
(w)
mae “person hyglwyf” yn cynnwys—
(i)
unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;
(ii)
unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;
(iii)
unrhyw berson sy’n feichiog;
(iv)
unrhyw blentyn;
(v)
(2)
At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio yn unol â pharagraff (1)(l), mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a)
y person sy’n berchen ar y safle, neu
(b)
(3)
Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—
(a)
maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;
(b)
nid ydynt yn cynnwys y canlynol—
(i)
llety gwyliau neu lety teithio;
(ii)
llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
(iii)
llety cyfiawnder troseddol.
(4)
At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)
mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;
(b)
mae digwyddiad yn achlysur—
(i)
sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol, a
(ii)
pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un man at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.
(5)
At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)
(b)
mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.
(6)
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema o sedd cerbyd neu’n theatr o sedd cerbyd—
(a)
os yw’r fangre yn yr awyr agored, a
(b)
os o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—
(i)
ni chânt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a
(ii)
ni chânt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.
(7)
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—
(a)
os yw wedi ei drefnu gan—
(i)
busnes,
(ii)
corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,
(iii)
clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu
(iv)
corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a
(8)
At ddibenion paragraff (7)(b)—
(a)
mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;
(b)
mae rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—
(i)
y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a
(ii)
y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.
Dirymu58.
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, ac eithrio rheoliad 48;
(b)
(c)
Diwygiad canlyniadol59.
“(e)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 os yw rheoliad 48 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys i’r hysbysiad.”
ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat
1.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
(2)
Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)
unrhyw blant o dan 11 oed, neu
(b)
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(3)
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.
(4)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(5)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.
(6)
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus
2.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd ac eithrio mewn annedd breifat—
(a)
o dan do, neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd;
(b)
yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.
(2)
Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)
unrhyw blant o dan 11 oed, neu
(b)
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(3)
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.
(4)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(5)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
(i)
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(ii)
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(f)
mynd i addoldy;
(g)
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(h)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
(i)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso digwyddiad o’r fath—
(i)
nad oes mwy na 50 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
(ii)
nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;
(j)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso digwyddiad o’r fath—
(i)
nad oes mwy na 100 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
(ii)
nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;
(k)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);
(l)
mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.
Aelwydydd estynedig
3.
(1)
Caiff hyd at 3 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2)
Yn ychwanegol at yr hyd at 3 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
(3)
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r aelwydydd sy’n oedolion gytuno.
(4)
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F51ar unrhyw un adeg.
(5)
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
(a)
paragraff 3 o Atodlen 2,
(b)
paragraff 3 o Atodlen 3, neu
(c)
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
(6)
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(7)
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F52oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno.
(8)
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau
4.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol, neu
(b)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(2)
(3)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 50 neu 100 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)
arddangosiad ffilm;
(ii)
perfformiad mewn theatr;
(iii)
marchnad;
(iv)
gwasanaeth crefyddol;
(v)
digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.
Digwyddiadau awdurdodedig
5.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—
(a)
lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu
(b)
lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;
(2)
Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(3)
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.
(4)
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
(a)
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
(b)
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
(b)
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
(7)
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)—
(a)
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
(b)
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.
RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio
Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 1 ac o ardal Lefel Rhybudd 1
6.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw—
(a)
mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu
(b)
mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu Lefel Rhybudd 4,
fynd i ardal Lefel Rhybudd 1 neu aros mewn ardal Lefel Rhybudd 1 heb esgus rhesymol.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 1, heb esgus rhesymol, ymadael â’r ardal at ddibenion mynd i’r ardaloedd a ganlyn neu aros ynddynt—
(a)
ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau;
(b)
ardal Lefel Rhybudd 3 neu Lefel Rhybudd 4.
(3)
(a)
os yw’r person yn mynd i’r ardal neu’n ymadael â’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.
(4)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal neu ymadael â’r ardal atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael gwasanaethau addysgol;
(j)
cael—
(i)
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(k)
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(l)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(5)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni priodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)
athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;
(f)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)
digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)
digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
(g)
teithio i bleidleisio mewn etholiad;
(h)
teithio ar daith sydd—
(i)
mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (1), yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i’r ardal, neu
(ii)
mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (2), yn gorffen mewn ardal nad yw’r person wedi ei wahardd rhag mynd iddi neu aros ynddi o dan yr is-baragraff hwnnw,
ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;
(i)
teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.
RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodol
7.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)
ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)
defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
(d)
defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post.
(3)
Pan—
(a)
bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig
8.
(1)
Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2)
Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—
(a)
rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a
(b)
ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(3)
Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—
(a)
arddangos ffilm, neu
(b)
perfformiad,
sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.
(4)
Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i—
(a)
mangre mewn—
(i)
porthladd môr;
(ii)
maes awyr;
(iii)
sefydliad addysgol;
(b)
ffreuturau yn y gweithle.
(5)
O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.
(6)
(7)
Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd
9.
Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
10.
ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat
1.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat—
(a)
o dan do, gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu o’i aelwyd estynedig;
(b)
yn yr awyr agored, sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.
(2)
Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w ystyried—
(a)
unrhyw blant o dan 11 oed, neu
(b)
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(3)
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.
(4)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(5)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)
yn byw yn yr un fangre, a
(ii)
yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
(6)
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus
2.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—
(a)
sy’n digwydd yn unman ac eithrio—
(i)
mewn annedd breifat, neu
(ii)
mewn llety gwyliau neu lety teithio, a
(b)
sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—
(i)
unrhyw blant o dan 11 oed, na
(ii)
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(2)
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—
(a)
sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu
(b)
sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—
(i)
yn aelodau o’r un aelwyd, neu
(ii)
yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.
(3)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.
(4)
(a)
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
(5)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(6)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
(i)
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(ii)
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(f)
mynd i addoldy;
(g)
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(h)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
(i)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)
lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
(ii)
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
(j)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)
lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
(ii)
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
(k)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);
(l)
mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.
(7)
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Aelwydydd estynedig
3.
(1)
Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2)
Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
(3)
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
(4)
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F53ar unrhyw un adeg .
F54(5)
Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.
(6)
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
(a)
paragraff 3 o Atodlen 3, neu
(b)
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
(7)
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(8)
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F55oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno.
(9)
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau
4.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
(b)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(2)
(3)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)
arddangosiad ffilm;
(ii)
perfformiad mewn theatr;
(iii)
marchnad;
(iv)
gwasanaeth crefyddol;
(v)
digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.
Digwyddiadau awdurdodedig
5.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—
(a)
lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu
(b)
lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;
(2)
Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(3)
Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.
(4)
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
(a)
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
(b)
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
(b)
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
(7)
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)—
(a)
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
(b)
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.
RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio
Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 2 ac o ardal Lefel Rhybudd 2
6.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw—
(a)
mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu
(b)
mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu Lefel Rhybudd 4,
fynd i ardal Lefel Rhybudd 2 neu aros mewn ardal Lefel Rhybudd 2 heb esgus rhesymol.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 2, heb esgus rhesymol, ymadael â’r ardal at ddibenion mynd i’r ardaloedd a ganlyn neu aros ynddynt—
(a)
ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau;
(b)
ardal Lefel Rhybudd 3 neu Lefel Rhybudd 4.
(3)
(a)
os yw’r person yn mynd i’r ardal neu’n ymadael â’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.
(4)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal neu ymadael â’r ardal atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael gwasanaethau addysgol;
(j)
cael—
(i)
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(k)
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(l)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(5)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;
(d)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)
athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;
(f)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)
digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)
digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
(g)
teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;
(h)
teithio ar daith sydd—
(i)
mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (1), yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i’r ardal, neu
(ii)
mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (2), yn gorffen mewn ardal nad yw’r person wedi ei wahardd rhag mynd iddi neu aros ynddi o dan yr is-baragraff hwnnw,
ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;
(i)
teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.
RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodol
7.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)
ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)
defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
(d)
defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post.
(3)
Pan—
(a)
bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig
8.
(1)
Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2)
Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—
(a)
ni chaiff werthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre ond fel rhan o bryd bwyd wrth y bwrdd y gellid disgwyl iddo gael ei weini fel brecwast, prif bryd bwyd canol dydd neu brif bryd bwyd gyda’r hwyr, neu ei weini fel prif gwrs mewn pryd bwyd o’r fath,
(b)
rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a
(c)
ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(3)
Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—
(a)
arddangos ffilm, neu
(b)
perfformiad,
sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.
(4)
Nid yw is-baragraff (2)(b) ac (c) yn gymwys i—
(a)
mangre mewn—
(i)
porthladd môr;
(ii)
maes awyr;
(iii)
sefydliad addysgol;
(b)
ffreuturau yn y gweithle.
(5)
O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.
(6)
(7)
Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd
9.
Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
10.
Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).
ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat
1.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu o’i aelwyd estynedig.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
(3)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(4)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)
yn byw yn yr un fangre, a
(ii)
yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
(5)
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus
2.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—
(a)
sy’n digwydd yn unman ac eithrio—
(i)
mewn annedd breifat, neu
(ii)
mewn llety gwyliau neu lety teithio, a
(b)
sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—
(i)
unrhyw blant o dan 11 oed, na
(ii)
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(2)
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—
(a)
sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu
(b)
sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—
(i)
yn aelodau o’r un aelwyd, neu
(ii)
yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.
(3)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.
(4)
(a)
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
(5)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(6)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
(i)
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(ii)
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
(f)
mynd i addoldy;
(g)
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(h)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
(i)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)
lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
(ii)
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
(j)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)
lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
(ii)
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
(k)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(7)
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Aelwydydd estynedig
3.
(1)
Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2)
Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
(3)
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
(4)
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F56ar unrhyw un adeg.
F57(5)
Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.
(6)
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
(a)
paragraff 3 o Atodlen 2, neu
(b)
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
(7)
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael eu trin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(8)
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F58oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno.
(9)
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau
4.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
(b)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(2)
(3)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)
arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;
(ii)
perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;
(iii)
marchnad;
(iv)
gwasanaeth crefyddol.
Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedig
5.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad chwaraeon elît gael ei gynnal.
(2)
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
(a)
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
(b)
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
(b)
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r digwyddiad.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
(5)
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (4)—
(a)
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
(b)
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.
RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio
Cyfyngiad ar deithio o ardal Lefel Rhybudd 3 ac i ardal Lefel Rhybudd 3
6.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw—
(a)
mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu
(b)
mewn ardal arall o Gymru,
fynd i ardal Lefel Rhybudd 3 neu aros mewn ardal Lefel Rhybudd 3 heb esgus rhesymol.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 3 ymadael â’r ardal, heb esgus rhesymol, at ddibenion mynd i’r ardaloedd a ganlyn neu aros ynddynt—
(a)
ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu
(b)
ardal arall o Gymru.
(3)
(a)
os yw’r person yn mynd i’r ardal neu’n ymadael â’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.
(4)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal neu ymadael â’r ardal atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos llys;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael gwasanaethau addysgol;
(j)
cael—
(i)
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(k)
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(l)
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(5)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;
(d)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)
athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;
(f)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)
digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)
digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
(g)
teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;
(h)
teithio ar daith sydd—
(i)
mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (1), yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i’r ardal, neu
(ii)
mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (2), yn gorffen mewn ardal nad yw’r person wedi ei wahardd rhag mynd iddi neu aros ynddi o dan yr is-baragraff hwnnw,
ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;
(i)
teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.
RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
PENNOD 1Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd
Cau busnesau a mangreoedd
7.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 11 i 26—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)
ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)
defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
(d)
defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post;
(e)
defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post.
(3)
Pan—
(a)
bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
PENNOD 2Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod a mangreoedd trwyddedig
Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod
8.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod—
(a)
ni chaiff agor ei fangre i gwsmeriaid cyn 6.00 a.m. bob dydd;
(b)
rhaid iddo gau’r fangre i gwsmeriaid am neu cyn 6.00 p.m. bob dydd.
(2)
Ni chaiff y person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod neu unrhyw fusnes neu wasanaeth arall y mae ei fangre wedi ei awdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol—
(a)
gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed yn ei fangre;
(b)
caniatáu i alcohol gael ei yfed yn y fangre.
(3)
At ddibenion y paragraff hwn, mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4)
Pan—
(a)
bo person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod (“busnes A”) yn ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad o dan y paragraff hwn, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad neu’r cyfyngiad os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’r cyfyngiad.
Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod: eithriadau
9.
(1)
Nid yw paragraff 8(1) yn gymwys i—
(a)
mangre mewn—
(i)
porthladd môr;
(ii)
maes awyr;
(iii)
sefydliad addysgol;
(iv)
ysbyty neu gartref gofal;
(b)
ffreuturau yn y gweithle, pan na fo dewis ymarferol arall i bobl yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m.;
(c)
mangre a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref.
(2)
Nid yw paragraff 8(1) yn atal mangre rhag cael ei defnyddio i werthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre.
(3)
Os—
(a)
yw dathliad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu briodas arall yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre y mae paragraff 8 yn gymwys iddi, a
(b)
archebwyd y dathliad fwy nag wythnos cyn y dechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys ddiweddaraf i’r ardal y mae’r fangre wedi ei lleoli ynddi,
caiff y fangre, er gwaethaf paragraff 8(1)(b), aros ar agor tan 10.00 p.m. at ddibenion cynnal y dathliad.
(4)
(5)
Nid yw paragraff 8(1)—
(a)
yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;
(b)
yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr—
(i)
fel rhan o wasanaeth ystafell, neu
(ii)
rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.
(6)
(a)
yn atal preswylwyr rhag bwyta bwyd neu yfed diod (gan gynnwys alcohol) ar unrhyw adeg yn eu hystafell breifat;
(b)
yn atal gwerthu alcohol i breswylwyr fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 10).
Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig
10.
(1)
Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i alcohol gael ei werthu na’i gyflenwi yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
PENNOD 3Rhestr o fangreoedd sydd ar gau
Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd
11.
Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
12.
Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).
13.
Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.
14.
Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.
15.
Casinos.
16.
Neuaddau bingo.
17.
Arcedau diddanu.
18.
Alïau bowlio.
19.
Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.
20.
Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
21.
Amgueddfeydd ac orielau.
22.
Rinciau sglefrio.
23.
Parciau a chanolfannau trampolîn.
24.
Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.
25.
Sbaon.
26.
Atyniadau i ymwelwyr.
ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
RHAN 1Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill
Gofyniad i aros gartref
1.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r person yn ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
(3)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw yn cynnwys—
(a)
(i)
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd neu’r aelwyd estynedig (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig, neu aelwyd person hyglwyf;
(b)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(c)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(d)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(e)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(f)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(g)
symud cartref;
(h)
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(i)
gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;
(j)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(k)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(l)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(4)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)
mynd i addoldy;
(g)
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(h)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)
digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)
digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
(i)
teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;
(j)
teithio i fan neu o fan, neu’n bresennol mewn man, lle y mae aelod o’i aelwyd estynedig yn byw.
(5)
Yn is-baragraff (4)(f)—
(a)
rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw neu lle y mae aelod o aelwyd estynedig y person yn byw, neu
(b)
pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.
(6)
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraill
2.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymgynnull gydag unrhyw berson arall ac eithrio—
(a)
aelodau o’i aelwyd,
(b)
ei ofalwr, neu
(c)
person y mae’n darparu gofal iddo.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r person yn ymgynnull gyda phobl eraill at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
(3)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)
symud cartref;
(g)
gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;
(h)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(i)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(j)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;
(k)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.
(4)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;
(c)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(d)
mynd i addoldy;
(e)
athletwr elît ac sy’n hyfforddi neu’n cystadlu ;
(f)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
(g)
cymryd rhan mewn cynulliad gydag aelodau o’i aelwyd estynedig mewn man lle y mae aelodau o’r aelwyd estynedig yn byw;
(h)
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)
yn byw yn yr un fangre, a
(ii)
yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
(5)
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Aelwydydd estynedig
3.
(1)
Caiff aelwyd un oedolyn ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2)
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
(3)
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F65ar unrhyw un adeg .
(4)
Pan fo aelwyd un oedolyn wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—
(a)
3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu
F66(“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond rhwng yr aelwyd un oedolyn ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn F67oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol .
(5)
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(6)
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F68oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .
(7)
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau
4.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
(b)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(2)
(3)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)
marchnad;
(ii)
gwasanaeth crefyddol.
Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedig
5.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad chwaraeon elît gael ei gynnal.
(2)
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
(a)
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
(b)
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
(b)
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r digwyddiad.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
(5)
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (4)—
(a)
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
(b)
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.
RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio
Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 4
6.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn—
(a)
ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau, neu
(b)
ardal arall o Gymru,
fynd i ardal Lefel Rhybudd 4 neu aros mewn ardal o’r fath heb esgus rhesymol.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r person yn mynd i’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
(3)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal atynt yn cynnwys—
(a)
(i)
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd neu aelwyd estynedig (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig, neu aelwyd person hyglwyf;
(b)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(c)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(d)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(e)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(f)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(g)
gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;
(h)
symud cartref;
(i)
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(j)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(k)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(4)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;
(c)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(d)
athletwr elît ac sy’n teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;
(e)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)
digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)
digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
(f)
teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;
(g)
teithio ar daith sy’n gorffen y tu allan i’r ardal, ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;
(h)
teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.
F69RHAN 3ACyfyngiadau ar fynd i ysgolion a sefydliadau addysg bellach
Cyfyngiadau ar fynd i fangreoedd ysgolion
6A.
(1)
Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu i ddisgybl F70dynodedig fynd i fangre’r ysgol.
F71(1A)
Yn y paragraff hwn, ystyr “disgybl dynodedig” yw disgybl ym mlwyddyn 3 neu’n uwch.
(2)
Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—
(a)
i ddisgybl F72dynodedig fynd i fangre ysgol—
(i)
i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall;
(ii)
pa fo perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd hyglwyfedd y disgybl;
(iii)
pan—
(aa)
bo’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, neu
(bb)
perchennog yr ysgol annibynnol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi,
yn penderfynu bod y disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol;
(b)
F73i ddisgybl dynodedig fynd i fangre ysgol arbennig;
(c)
F74i ddisgybl dynodedig fynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;
(d)
F75i ddisgybl dynodedig fynd i fangre uned mewn ysgol, pan—
(i)
bo awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a
(ii)
bo’r disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;
(e)
F76i ddisgybl dynodedig sy’n ddisgybl preswyl breswylio mewn llety ym mangre’r ysgol.
(3)
Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol neu berchennog ysgol annibynnol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adnabod plant gweithwyr hanfodol.
Cyfyngiad ar fynd i fangre addysg bellach
6B.
(1)
Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr fynd i fangre’r sefydliad addysg bellach.
(2)
Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu i fyfyriwr fynd i fangre—
F77(a)
sefydliad addysg bellach—
(i)
i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu
(ii)
i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;
(b)
sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd hyglwyfedd y myfyriwr.
Gorfodi
6C.
Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â pharagraff 6A neu 6B yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol y digwyddodd y methiant honedig yn ei ardal i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.
Dehongli Rhan 3A
6D.
Yn y Rhan hon—
(a)
ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996;
(b)
mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;
(c)
ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—
(i)
sefydliad yn y sector addysg bellach;
(ii)
darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000—
(aa)
nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i),
(bb)
nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ac
(cc)
sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol,
ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;
(d)
mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;
(e)
mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(f)
mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;
(g)
mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag ysgol a’i ystyr, mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;
(h)
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf 1996;
(i)
mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;
(j)
mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;
(k)
ystyr “ysgol arbennig” yw—
(i)
ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;
(ii)
ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
(l)
mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996.
F78(m)
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
(n)
ystyr “blwyddyn 3” yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;
(o)
ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.
RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
PENNOD 1Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau busnesau bwyd a diod
7.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)
defnyddio mangre ar gyfer—
(i)
gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)
gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)
darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);
(c)
ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;
(d)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3)
At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4)
Pan—
(a)
bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cau llety gwyliau neu lety teithio
8.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)
darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—
(i)
nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)
sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(d)
defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post.
(3)
Pan—
(a)
bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cau canolfannau cymunedol ac amlosgfeydd
9.
(1)
(2)
Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—
(a)
i darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b)
i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(3)
Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).
(4)
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.
(5)
Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.
PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd
Cau busnesau a gwasanaethau
10.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 21 i 48—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)
ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2)
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)
defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
(d)
defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post;
(e)
defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post.
(3)
Pan—
(a)
bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi’u heithrio rhag y gofyniad i gau
Esemptiad rhag y gofyniad i gau
11.
(1)
(2)
(3)
Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu neu gyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(4)
Nid yw is-baragraff (3) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu neu gyflenwi alcohol yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
PENNOD 4Rhestr o fangreoedd sydd ar gau
Mangreoedd sydd ar gau
Busnesau bwyd a diod
12.
Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
13.
Tafarndai.
14.
Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
Llety gwyliau neu lety teithio
15.
Safleoedd gwersylla.
16.
Safleoedd gwyliau.
17.
Gwestai a llety gwely a brecwast.
18.
Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
Gwasanaethau cyhoeddus etc.
19.
Canolfannau cymunedol.
20.
Amlosgfeydd.
21.
Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.
Gwasanaethau personol etc.
22.
Salonau gwallt a barbwyr.
23.
Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.
24.
Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.
Hamdden a chymdeithasol etc.
25.
Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
26.
Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).
27.
Sinemâu.
28.
Neuaddau cyngerdd a theatrau.
29.
Casinos.
30.
Neuaddau bingo.
31.
Arcedau diddanu.
32.
Alïau bowlio.
33.
Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.
34.
Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
35.
Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
36.
Amgueddfeydd ac orielau.
37.
Rinciau sglefrio.
38.
Parciau a chanolfannau trampolîn.
39.
Parciau a chanolfannau sglefrio amgaeedig neu o dan do.
40.
Sbaon.
41.
Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).
42.
Atyniadau i ymwelwyr.
Chwaraeon ac ymarfer corff
43.
Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do a champfeydd.
44.
Pyllau nofio.
45.
Cyrtiau chwaraeon, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).
Manwerthu etc.
46.
Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu.
47.
Canolfannau siopa ac arcedau siopa.
48.
Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo F79a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr .
Mangreoedd esempt
Gwasanaethau cyhoeddus etc.
49.
Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid, gwasanaethau ffisiotherapi, gwasanaethau aciwbigo a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
50.
Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.
51.
Trefnwyr angladdau.
52.
Milfeddygon.
Busnesau bwyd a diod.
53.
Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.
54.
Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.
Manwerthu etc.
55.
Busnesau sy’n cynnig y nwyddau a ganlyn ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn siop—
(a)
bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes ac anifeiliaid domestig arall);
(b)
cynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer storio a pharatoi bwyd neu ddiod neu ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diod;
(c)
cynhyrchion ar gyfer cynnal, cynnal a chadw neu weithrediad hanfodol y cartref neu weithle;
(d)
cynhyrchion fferyllol, cynhyrchion iechyd a gofal personol, cynhyrchion babanod (gan gynnwys dillad), cynhyrchion ymolchi a chynhyrchion cosmetig;
(e)
papurau newydd a chylchgronau;
(f)
beiciau a chynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw beiciau,
ond dim ond at ddibenion gwerthu neu logi’r nwyddau hynny.
56.
Marchnadoedd bwyd, siopau cyfleustra, siopau cornel, siopau anifeiliaid anwes, siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd a gorsafoedd petrol.
57.
Archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n gwerthu sawl math o nwyddau ond dim ond at ddibenion—
(a)
gwerthu’r nwyddau a restrir ym mharagraff 55;
(b)
gwerthu nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir yn is-baragraff 56;
(c)
gwerthu nwyddau eraill—
(i)
(ii)
ar sail eithriadol pan fo angen y nwyddau mewn argyfwng neu ar sail dosturiol.
58.
Siopau sy’n cynnig gwasanaethau cynnal a chadw neu atgyweirio ar gyfer dyfeisiau telathrebu neu dechnoleg gwybodaeth.
59.
Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.
60.
Banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill.
61.
Swyddfeydd post.
62.
Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.
F8062A.
Golchfeydd ceir awtomatig.
63.
Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.
64.
Golchdai a siopau sychlanhau.
65.
Busnesau tacsi neu logi cerbydau.
66.
Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.
ATODLEN 5Ardaloedd
1.
F82Addasiadau dros dro
2.
Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4, am y cyfnod o ddechrau’r diwrnod ar 20 Chwefror 2021 tan ddiwedd y diwrnod ar 12 Mawrth 2021—
(a)
mae paragraff 1(4)(f) o Atodlen 4 i’w ddarllen—
(i)
fel pe bai’r “neu” ar ôl is-baragraff (ii) wedi ei hepgor, a
(ii)
“neu
(iv)
mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp ac unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed.”;
(b)
“neu
(ii)
mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed,”.
F83ATODLEN 6Addasiadau dros dro ar gyfer y Nadolig: aelwydydd estynedig a theithio
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
ATODLEN 7Mangreoedd rheoleiddiedig
Busnesau bwyd a diod
1.
Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
2.
Tafarndai.
3.
Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
Llety gwyliau a llety teithio
4.
Safleoedd gwersylla.
5.
Safleoedd gwyliau.
6.
Gwestai a llety gwely a brecwast.
7.
Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
Gwasanaethau cyhoeddus etc.
8.
Gwasanaethau meddygol neu iechyd.
9.
Gwasanaethau ailgylchu a gwastraff.
10.
Canolfannau cymunedol.
11.
Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.
12.
Addoldai.
13.
Trefnwyr angladdau.
14.
Amlosgfeydd.
15.
Milfeddygon.
Gwasanaethau personol etc.
16.
Salonau gwallt a barbwyr.
17.
Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.
18.
Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.
Hamdden a chymdeithasol etc.
19.
Sinemâu.
20.
Neuaddau cyngerdd a theatrau.
21.
Casinos.
22.
Neuaddau bingo.
23.
Arcedau diddanu.
24.
Alïau bowlio.
25.
Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.
26.
Meysydd chwarae.
27.
Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
28.
Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
29.
Amgueddfeydd ac orielau.
30.
Rinciau sglefrio.
31.
Parciau a chanolfannau trampolîn.
32.
Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.
33.
Sbaon.
34.
Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).
35.
Atyniadau i ymwelwyr.
Chwaraeon ac ymarfer corff
36.
Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do a champfeydd.
37.
Pyllau nofio.
38.
Cyrtiau chwaraeon, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).
Manwerthu etc.
39.
Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu, gan gynnwys—
(a)
tai arwerthiant;
(b)
delwriaethau ceir;
(c)
marchnadoedd;
(d)
siopau betio;
(e)
canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion;
(f)
fferyllfeydd (gan gynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist;
(g)
banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill;
(h)
swyddfeydd post;
(i)
gwasanaethau trwsio ceir ac MOT;
(j)
marchnadoedd neu arwerthiannau da byw;
(k)
golchdai a siopau sychlanhau;
(l)
gorsafoedd petrol;
(m)
busnesau tacsi neu logi cerbydau.
40.
Canolfannau siopa ac arcedau siopa.
41.
Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.
42.
Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.
ATODLEN 8Gorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig
Hysbysiad gwella mangre
1.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—
(a)
(b)
bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
(2)
Rhaid i hysbysiad gwella mangre—
(a)
pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;
(b)
(c)
pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);
(d)
rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(3)
Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(2).
Hysbysiad cau mangre
2.
(1)
Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.
(2)
Amod 1 yw—
(a)
bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,
(b)
bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac
(c)
bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3)
Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(b)
bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(4)
Rhaid i hysbysiad cau mangre—
(a)
cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,
(b)
pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(i)
nad ydynt wedi eu cymryd, a
(c)
(d)
yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,
(e)
pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac
(f)
rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(5)
Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 672 o oriau (28 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.
(6)
Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.
(7)
Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
(8)
Pan fo—
(a)
swyddog gorfodaeth yn ystyried bod person cyfrifol wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, a
(b)
naill ai—
(i)
hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi, neu
(ii)
achos wedi ei ddwyn am drosedd,
mewn perthynas â’r methiant hwnnw,
caiff y swyddog gorfodaeth serch hynny ddyroddi hysbysiad cau mangre o dan is-baragraff (1).
Effaith hysbysiad cau mangre
3.
(1)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—
(a)
bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a
(b)
na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.
(3)
At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—
(a)
pan fo’r person yn byw yn y fangre;
(b)
pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;
(c)
(d)
pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;
(e)
pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangre
4.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—
(a)
bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu
(2)
Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.
Apelau
5.
(1)
Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.
(2)
Rhaid i apêl gael ei wneud—
(a)
drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a
(b)
o fewn 7 niwrnod ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(3)
Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).
(4)
Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.
(5)
Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—
(a)
cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;
(b)
cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;
(c)
addasu’r hysbysiad;
(d)
gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.
(6)
Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.
(7)
Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.
(8)
Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—
(a)
cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;
(b)
anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadau
6.
(1)
Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.
(2)
Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person—
(a)
os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu
(b)
os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.
Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoedd
7.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.
(2)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—
(a)
arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 9, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;
(b)
trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.
(3)
Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.
(4)
Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.
Dangos dogfennau etc.
8.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon, ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny a chymryd copïau ohonynt.
(2)
Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.
ATODLEN 9Y ffurf ar arwydd i fynd gyda hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre
Yr arwydd sydd i’w arddangos gyda hysbysiad gwella mangre
1.
(1)
Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad gwella mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 8 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2)
Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.
Yr arwydd sydd i’w arddangos gyda hysbysiad cau mangre
2.
(1)
Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad cau mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 8 fod ar y ffurf a nodir isod.
(2)
Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du a choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae 9 Rhan i’r Rheoliadau.
Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 21 Rhagfyr 2020 (ac eithrio Rhan 6 sy’n dod i rym ar 23 Rhagfyr 2020) ac yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021. Mae hefyd yn darparu bod rhaid adolygu’r Rheoliadau yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn parhau i fod yn gymesur.
Mae Rhan 2 yn gosod cyfyngiadau ar bobl yn ymgynnull, ar bobl yn teithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Mae Rhan 2 yn rhoi 4 lefel wahanol o gyfyngiadau yn eu lle a all fod yn gymwys gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’r lefel sy’n gymwys yn seiliedig ar yr hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yw’r ymateb priodol a chymesur i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.
Mae Atodlen 1 yn nodi’r lefel isaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1; mae Atodlen 2 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2; mae Atodlen 3 yn nodi cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 ac mae Atodlen 4 yn nodi’r lefel uchaf – sef cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 (lle y mae cyfyngiadau caeth ar bobl yn ymgynnull ac yn teithio, a lle y mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o fangreoedd gau). Mae Atodlen 5 yn nodi pa lefel rhybudd sy’n gymwys i ardal. Ar adeg gwneud y Rheoliadau mae’r un lefel rhybudd yn gymwys ledled Cymru, ond gellid diwygio’r Rheoliadau i gymhwyso lefelau rhybudd gwahanol ar sail ranbarthol neu leol (yn ogystal â diwygio lefel y rhybudd ar gyfer Cymru gyfan).
Mae nifer o’r cyfyngiadau yn cyfeirio at y cysyniad o “aelwyd estynedig”. Mae hyn yn galluogi mwy nag un aelwyd i gytuno i ddod at ei gilydd at ddibenion y rheolau drwy ffurfio aelwyd estynedig fwy. Yn ogystal, mae darpariaethau ar wahân sy’n caniatáu i aelwyd un oedolyn (person sy’n byw ar ei ben ei hun neu gyda phlentyn neu oedolyn y mae’n gofalu amdano yn unig) gytuno i ddod at ei gilydd gydag aelwyd arall at y dibenion hyn. Mae’r trefniadau hyn yn gyfyngedig i’r aelwydydd hynny yn unig a rhaid i’r holl oedolion ar bob aelwyd sy’n ffurfio aelwyd estynedig gytuno iddynt.
Ceir crynodeb o’r cyfyngiadau sy’n gymwys ar bob lefel rhybudd isod. Mae’r holl gyfyngiadau yn ddarostyngedig i eithriadau a restrir yn y Rheoliadau.
Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1 yn gymwys i ardal:
dim ond rhwng hyd at 6 o bobl, neu fwy os yw pawb sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’n aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 3 aelwyd ac aelwyd un oedolyn, y caniateir cynulliadau o dan do yng nghartrefi pobl;
mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl) wedi eu cyfyngu i 6 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu i aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;
mae cynulliadau yn yr awyr agored (gan gynnwys yng ngerddi pobl) wedi eu cyfyngu i 30 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu i aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;
mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 50 o bobl o dan do a hyd at 100 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;
fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 50 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 100 o bobl yn yr awyr agored;
mae’n bosibl y caniateir digwyddiadau ar raddfa fwy hefyd, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru;
caniateir teithio o fewn ardal Lefel 1 ac i unrhyw ardal Lefel 1 arall neu unrhyw ardaloedd Lefel 2 ac ohonynt, ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 1 i unrhyw ardal o Gymru sydd ar Lefel 3 neu 4 nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;
yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 1;
caiff bron pob mangre busnes sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol wneud hynny ar ôl 10.00 p.m. a rhaid iddynt gau yn ddim hwyrach na 10.20 p.m.
Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 yn gymwys i ardal:
dim ond rhwng aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 2 aelwyd ac aelwyd un oedolyn, y caniateir cynulliadau o dan do yng nghartrefi pobl;
mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl) wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;
mae cynulliadau yn yr awyr agored (gan gynnwys yng ngerddi pobl) wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;
mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 15 o bobl o dan do a hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;
fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 15 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 30 o bobl yn yr awyr agored;
mae’n bosibl y caniateir digwyddiadau ar raddfa fwy hefyd, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru;
caniateir teithio o fewn ardal Lefel 2 ac i unrhyw ardal Lefel 2 arall neu unrhyw ardaloedd Lefel 1 ac ohonynt, ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 2 i unrhyw ardal o Gymru sydd ar Lefel 3 neu 4, nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;
yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 2;
caiff bron pob mangre sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol ond gwneud hynny gyda phryd o fwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol ar ôl 10.00 p.m. (a rhaid cau yn ddim hwyrach na 10.20 p.m.).
Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 yn gymwys i ardal:
dim ond rhwng aelodau o aelwyd estynedig sy’n cynnwys hyd at 2 aelwyd ac aelwyd un oedolyn y caniateir cynulliadau yng nghartrefi pobl (o dan do ac yn yr awyr agored);
mae cynulliadau o dan do (i ffwrdd o gartrefi pobl), neu yn yr awyr agored mewn mangreoedd rheoleiddiedig, wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd os yw’r nifer yn fwy na hynny;
mae cynulliadau yn yr awyr agored (i ffwrdd o gartrefi pobl) neu mewn mangreoedd rheoleiddiedig wedi eu cyfyngu i 4 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) neu’r aelodau o 1 aelwyd neu o aelwyd estynedig os yw’r nifer yn fwy na hynny;
mae rheolau gwahanol yn gymwys i gynulliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, sy’n caniatáu i ragor o bobl (hyd at 15 o bobl o dan do a hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored) ddod at ei gilydd;
fel eithriad i’r gwaharddiad cyffredinol ar drefnu digwyddiadau, caniateir digwyddiadau sy’n golygu bod hyd at 15 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg o dan do, neu 30 o bobl yn yr awyr agored;
caniateir teithio o fewn ardal Lefel 3 ond ni chaniateir teithio o ardal Lefel 3 i unrhyw ardal arall o Gymru, nac i unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws;
yn yr un modd, ni chaniateir teithio o ardal Lefel 1, 2 neu 4, nac o unrhyw ardaloedd mewn mannau eraill yn y DU lle y ceir llawer o achosion o’r coronafeirws, i ardal Lefel 3;
caiff y rhan fwyaf o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer barhau i fod ar agor ond rhaid i fangreoedd a ddefnyddir ar gyfer adloniant neu letygarwch naill ai fod ar gau neu cânt agor tan 6.00 p.m. yn unig – ac ni chaiff mangreoedd sydd wedi eu trwyddedu i werthu alcohol werthu alcohol i’w yfed yn y fangre.
Pan fydd cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 yn gymwys i ardal:
mae gofyniad cyffredinol i aros gartref os ydych yn byw yn yr ardal a pheidio â theithio i’r ardal os ydych yn byw y tu allan iddi;
mae’n ofynnol cau’r rhan fwyaf o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer.
Mae’r gallu i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau a drefnir yn ffurfiol, ac i fangreoedd fod ar agor i’r cyhoedd, yn ddarostyngedig i’r angen i gymryd “pob mesur rhesymol” i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu (gweler Rhan 5).
Mae cysylltiad agos rhwng y cyfyngiadau ar ddigwyddiadau a’r cyfyngiadau ar gynulliadau gan y gallai pobl sy’n mynychu digwyddiad hefyd fod yn ymgynnull gydag eraill. Caiff digwyddiad ei ddiffinio yn eang (yn rheoliad 57(4)) fel unrhyw achlysur sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol lle y mae pobl yn yr un man at y diben hwnnw (pa un a ydynt hefyd yn ymgynnull ai peidio).
Fel eithriad i’r system hon, mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth benodol sy’n addasu’r cyfyngiadau sy’n ymwneud ag aelwydydd estynedig (a theithio i gwrdd ag aelodau o aelwyd estynedig) am y cyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 (gyda diwrnod ychwanegol yn cael ei ganiatáu cyn ac ar ôl y cyfnod hwn yn achos personau sy’n teithio o Ogledd Iwerddon ac i Ogledd Iwerddon).
Mae Rhannau 3 i 6 yn gosod cyfyngiadau a gofynion pellach sy’n gymwys yn gyffredinol o dan bob amgylchiad.
Mae Rhan 3 yn gosod gofynion ar bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws a’u cysylltiadau agos. Mae rheoliadau 6 a 7 yn darparu na chaiff oedolion na phlant sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae rheoliadau 8 a 9 yn darparu na chaiff pobl sydd wedi cael “cysylltiad agos” â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ymadael â’r man lle y maent yn byw am 10 niwrnod (ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan reoliad 10). Mae’r cyfnod ynysu o 10 niwrnod yn dechrau naill ai’r diwrnod ar ôl i berson gael canlyniad positif, y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae person yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y profodd y symptomau gyntaf neu’r diwrnod ar ôl i berson gael cysylltiad agos. Mae rheoliad 11 yn darparu eithriad i’r gofyniad i ynysu os yw pobl yn profi’n negyddol yn rheolaidd yn unol â chynllun profi ffurfiol. Mae rheoliad 12 yn ymwneud â rhwymedigaethau oedolion mewn cysylltiad â phlant y mae’n ofynnol iddynt ynysu, mae rheoliad 13 yn galluogi i hysbysiadau a roddir o dan y Rhan hon gan swyddogion olrhain cysylltiadau gael eu tynnu’n ôl ac mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a ddelir gan swyddogion olrhain cysylltiadau.
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd ac mewn gweithleoedd. Mae rheoliad 16 yn gymwys i “mangreoedd rheoleiddiedig” ac mae’n ei gwneud yn ofynnol: (1) i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) i bob mesur rhesymol arall gael ei gymryd, er enghraifft i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos a chynnal hylendid; a (3) i wybodaeth gael ei darparu i’r rheini sy’n mynd i fangre neu sy’n gweithio mewn mangre ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hefyd yn pennu y gall peidio â chynnal gweithgaredd, cau rhan o fangre, caniatáu i staff ynysu a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth y rheini sydd yn y fangre fod yn fesurau rhesymol.
Mae Rhan 5 yn darparu bod rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, ac mewn mannau penodol o dan do, yn ddarostyngedig i esemptiadau ac eithriadau a restrir.
Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo rhaid i ysgolion fod ar agor pan fyddant ar gau fel arall i ganiatáu i blant gweithwyr hanfodol neu blant sy’n agored i niwed fynychu.
Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rheini a gaiff gymryd camau gorfodi, mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaeth bellach (yn Atodlenni 8 a 9) ynghylch gorfodi’r angen i gymryd camau ataliol o dan reoliad 16, mae rheoliad 27 yn ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, ac mae rheoliad 28 yn ymwneud â phwerau symud a gwasgaru. Mae rheoliadau 29 i 32 yn ymwneud yn benodol â gorfodi’r gofynion mewn perthynas â theithio, ynysu, digwyddiadau a gwisgo gorchudd wyneb ac mae rheoliad 33 yn ymwneud â chymhwyso’r gofynion i blant. Mae rheoliad 34 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre, mae rheoliad 35 yn ymwneud â phwerau’r heddlu i gynnal archwiliadau ffyrdd ac mae rheoliad 36 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch arfer pwerau drwy bwerau gorfodi.
Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau a chosbau. Mae rheoliadau 37 i 43 ym Mhennod 1 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r cyfyngiadau neu’r gofynion y cyfeirir atynt yn cyflawni trosedd. Mae trosedd i’w chosbi drwy ddirwy ddiderfyn (rheoliad 44). Mae Pennod 2 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiadau cosb benodedig ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y cânt eu cymhwyso ac mae Pennod 3 yn ymwneud ag achosion am droseddau o dan y Rheoliadau.
Mae Rhan 9 yn cynnwys termau wedi eu diffinio (rheoliad 57), yn dirymu Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiad canlyniadol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.