RHAN 1Cyflwyniad, adolygu a dod i ben

Enwi, cymhwyso a dod i rymI31

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio Rhan 6, i rym ar F120 Rhagfyr 2020.

4

Daw Rhan 6 i rym ar 23 Rhagfyr 2020.

AdolyguI12

Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

a

erbyn 7 Ionawr 2021;

b

o leiaf unwaith yn y cyfnod rhwng 8 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021;

c

o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Dod i benI23

Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar F228 Mai 2021.