Rhl. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
Rhl. 4(6A)(6B) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 4(6A) (27.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 (O.S. 2021/413), rhlau. 1(2), 2(2)
Rhl. 4(7) wedi ei hepgor (9.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 8(2)
Mae Atodlenni 1 i 4 yn nodi cyfyngiadau a gofynion a all fod yn gymwys mewn ardal mewn perthynas ag—
cynulliadau;
trefnu digwyddiadau;
teithio i ardaloedd eraill ac o ardaloedd eraill;
defnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer yn agored i’r cyhoedd.
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 1.
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 2.
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3.
Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4.
Mae Atodlen 5 yn nodi pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal drwy bennu lefel ar gyfer yr ardal honno.
Ond, mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 11 Ebrill 2021, mae Atodlen 3 i’w thrin fel pe bai Atodlen 3A wedi ei rhoi yn ei lle.
Ac mae Atodlen 5 yn nodi addasiadau dros dro canlyniadol sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3 am y cyfnod a bennir ym mharagraff (6A).
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Yn y Rheoliadau hyn—
“ardal Lefel Rhybudd 1” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 1;
“ardal Lefel Rhybudd 2” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 2;
“ardal Lefel Rhybudd 3” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 3;
“ardal Lefel Rhybudd 4” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 4.