RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

Dehongli’r RhanI15

1

Yn y Rhan hon, ystyr “cysylltiad agos” yw cysylltiad y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ystyried y gall arwain at risg o haint neu halogiad â’r coronafeirws, gan gynnwys—

a

dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â pherson o bellter o lai nag 1 metr;

b

treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i berson;

c

teithio mewn car neu gerbyd bach arall gyda pherson neu’n agos i berson ar awyren neu yn yr un cerbyd mewn trên.

2

Yn rheoliadau 6 ac 8, mae cyfeiriadau at “oedolyn” (“O”) yn cynnwys cyfeiriadau at blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed.

3

At ddibenion y Rhan hon, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—

a

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

b

cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

4

At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw hysbysiad drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysiad.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirwsI26

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

a

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a

b

am gyfeiriad y man hwnnw.

4

Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: plentyn â’r coronafeirwsI37

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

a

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

b

am gyfeiriad y man hwnnw.

4

Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond mewn achos pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolynI48

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.

4

Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—

a

pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;

b

pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentynI59

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

2

Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

3

Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.

4

Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—

a

pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu

b

pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriadau cyffredinolI610

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2).

2

Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i—

a

ceisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hyn ar frys neu ar gais ymarferydd meddygol cofrestredig;

b

cael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

i

pan fo eu hangen ar frys, a

ii

pan na fo’n bosibl i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw gael gafael ar y gwasanaethau hynny;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny heb ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw;

d

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

e

am resymau tosturiol, gan gynnwys mynd i angladd—

i

aelod o’r teulu;

ii

ffrind agos;

f

cael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y man lle y mae’r person yn byw neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y man hwnnw) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol—

i

i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw eu cael, neu

ii

eu cael drwy eu danfon i’r man hwnnw gan drydydd parti;

g

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

i

pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant y person, a

ii

pan na fo’r gwasanaeth yn gallu cael ei ddarparu os yw’r person yn aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

h

symud i fan gwahanol i fyw pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

i

pan fo’r person yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni’r plentyn, neu un o rieni’r plentyn, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld y plentyn a rhieni’r plentyn, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu sy’n gofalu amdano.

3

Nid yw rheoliadau 6(2), 7(2), 8(2) a 9(2) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

4

Nid yw rheoliad 6(2) yn gymwys i berson—

a

sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod astudiaeth ymchwil (y “prawf blaenorol”), a

b

sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod yr un astudiaeth o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y prawf blaenorol.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriad ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mewn cynllun profiI711

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

a

bo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw neu fod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu 9(2) (“y gofyniad ynysu”), a

b

bo P yn cytuno i gymryd rhan mewn cynllun profi.

2

Os yw prawf cyntaf P o dan y cynllun profi yn negatif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).

3

Os yw canlyniad prawf a gymerir gan P o dan y cynllun profi yn bositif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf fel pe na bai wedi peidio â bod yn gymwys yn rhinwedd y paragraff (2).

4

Er gwaethaf paragraff (2), mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P ar—

a

diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau prawf;

b

unrhyw ddiwrnod y mae’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun ond y mae’n methu â gwneud hynny.

5

Os yw P yn cael canlyniad negatif am y coronafeirws yn ei brawf olaf o dan y cynllun profi, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r cynharaf o—

a

yr adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, neu

b

diwrnod olaf ynysiad P a gyfrifir yn unol â rheoliad 8 neu 9 yn ôl y digwydd.

6

Pan fo P yn blentyn—

a

rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros P gytuno ar ran P fod P i gymryd rhan mewn cynllun profi;

b

mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau (2) a (5)(a) at P yn cael canlyniad prawf yn cynnwys cyfeiriadau at berson a chanddo gyfrifoldeb dros P yn cael y canlyniad.

7

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “cynllun profi” yw cynllun sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru y mae’n ofynnol odano i P gymryd nifer o brofion am y coronafeirws a bennir yn y cynllun, ar ddyddiadau ac mewn modd a bennir felly;

b

ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod prawf” yw diwrnod, rhwng y diwrnod y mae P yn cymryd y prawf cyntaf a’r prawf olaf o dan y cynllun, nad yw’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

F12Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol11A

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

a

yng Nghymru am F44.00 a.m. ar F1322 Ionawr 2021 ,

b

wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn F54.00 a.m. ar F1422 Ionawr 2021, ac

c

wedi bod F15yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania o fewn y cyfnod hwnnw.

2

Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod F6yr oedd P F16yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania ddiwethaf .

3

Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—

a

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

b

am gyfeiriad y man hwnnw.”

F174

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F11Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 15 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorol11AA

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

a

yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021,

b

wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac

c

wedi bod mewn gwlad restredig o fewn y cyfnod hwnnw.

2

Oni bai bod rheoliad 11B yn gymwys, ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle y mae’n byw neu fod y tu allan iddo tan ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf.

3

Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i P hysbysu’r swyddog olrhain cysylltiadau—

a

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

b

am gyfeiriad y man hwnnw.

4

At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig—

a

Ariannin;

b

Brasil;

c

Bolivia;

d

Chile;

e

Colombia;

f

Ecuador;

g

Guiana Ffrengig;

h

Guyana;

i

Paraguay;

j

Periw;

k

Portiwgal;

l

Gweriniaeth Cabo Verde;

m

Gweriniaeth Panamá;

n

Suriname;

o

Uruguay;

p

Venezuela.

5

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—

a

mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020),

b

mae wedi bod ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac

c

nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad restredig arall.

F1Gofyniad i ynysu: eithriad penodol ar gyfer pobl sydd wedi bod F7mewn gwledydd penodol11B

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 11A(2) F9neu 11AA(2).

2

Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo—

a

i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

b

os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny;

c

er mwyn osgoi salwch difrifol, anaf difrifol F8, risg arall o niwed difrifol neu i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol .

Gofyniad ar bersonau a chanddynt gyfrifoldeb dros blantI812

Pan fo gofyniad wedi ei osod ar blentyn o dan reoliad 7(2)F2, 9(2) F10, 11A(2) neu 11AA(2) , rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnolI913

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—

a

wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1) (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond

b

yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

2

Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2Gwybodaeth

Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaethI1014

1

Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—

a

at ddibenion—

i

cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

ii

atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

iii

monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

b

at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

2

Gwybodaeth berthnasol yw—

a

pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2)

i

gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plentyn;

ii

y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1);

iii

y cyfnod penodol y mae’n ofynnol i’r person beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw neu fod y tu allan iddo mewn cysylltiad ag ef, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 6, 7, 8 neu 9;

F3aa

pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 11A(2), gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plenty.

b

cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif am y coronafeirws ac enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, enw a manylion cyswllt oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn yn ogystal ag enw a dyddiad geni’r plentyn.

3

Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—

a

at ddibenion—

i

cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

ii

atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

iii

monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

b

at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu hynny o wybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—

a

at ddibenion—

i

cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,

ii

atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

iii

monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

b

at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—

a

rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na

b

unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).

6

Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.

7

Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

8

Yn y rheoliad hwn, mae i “deddfwriaeth diogelu data” a “data personol” yr un ystyron â “data protection legislation” a “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 20182.