RHAN 3LL+CGofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1LL+CGofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

Dehongli’r RhanLL+C

5.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “cysylltiad agos” yw cysylltiad y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ystyried y gall arwain at risg o haint neu halogiad â’r coronafeirws, gan gynnwys—

(a)dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â pherson o bellter o lai nag 1 metr;

(b)treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i berson;

(c)teithio mewn car neu gerbyd bach arall gyda pherson neu’n agos i berson ar awyren neu yn yr un cerbyd mewn trên.

(2Yn rheoliadau 6 ac 8, mae cyfeiriadau at “oedolyn” (“O”) yn cynnwys cyfeiriadau at blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed.

(3At ddibenion y Rhan hon, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw hysbysiad drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirwsLL+C

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.

(4Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: plentyn â’r coronafeirwsLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.

(4Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond mewn achos pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolynLL+C

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.

(4Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—

(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;

(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentynLL+C

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.

(4Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—

(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu

(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriadau cyffredinolLL+C

10.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2).

(2Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i—

(a)ceisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hyn ar frys neu ar gais ymarferydd meddygol cofrestredig;

(b)cael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)pan fo eu hangen ar frys, a

(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw gael gafael ar y gwasanaethau hynny;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny heb ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw;

(d)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(e)am resymau tosturiol, gan gynnwys mynd i angladd—

(i)aelod o’r teulu;

(ii)ffrind agos;

(f)cael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y man lle y mae’r person yn byw neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y man hwnnw) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol—

(i)i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw eu cael, neu

(ii)eu cael drwy eu danfon i’r man hwnnw gan drydydd parti;

(g)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant y person, a

(ii)pan na fo’r gwasanaeth yn gallu cael ei ddarparu os yw’r person yn aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

(h)symud i fan gwahanol i fyw pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

(i)pan fo’r person yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni’r plentyn, neu un o rieni’r plentyn, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld y plentyn a rhieni’r plentyn, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu sy’n gofalu amdano.

(3Nid yw rheoliadau 6(2), 7(2), 8(2) a 9(2) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

(4Nid yw rheoliad 6(2) yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod astudiaeth ymchwil (y “prawf blaenorol”), a

(b)sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod yr un astudiaeth o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y prawf blaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriad ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mewn cynllun profiLL+C

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)bo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw neu fod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu 9(2) (“y gofyniad ynysu”), a

(b)bo P yn cytuno i gymryd rhan mewn cynllun profi.

(2Os yw prawf cyntaf P o dan y cynllun profi yn negatif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).

(3Os yw canlyniad prawf a gymerir gan P o dan y cynllun profi yn bositif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf fel pe na bai wedi peidio â bod yn gymwys yn rhinwedd y paragraff (2).

(4Er gwaethaf paragraff (2), mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P ar—

(a)diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau prawf;

(b)unrhyw ddiwrnod y mae’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun ond y mae’n methu â gwneud hynny.

(5Os yw P yn cael canlyniad negatif am y coronafeirws yn ei brawf olaf o dan y cynllun profi, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r cynharaf o—

(a)yr adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, neu

(b)diwrnod olaf ynysiad P a gyfrifir yn unol â rheoliad 8 neu 9 yn ôl y digwydd.

(6Pan fo P yn blentyn—

(a)rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros P gytuno ar ran P fod P i gymryd rhan mewn cynllun profi;

(b)mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau (2) a (5)(a) at P yn cael canlyniad prawf yn cynnwys cyfeiriadau at berson a chanddo gyfrifoldeb dros P yn cael y canlyniad.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “cynllun profi” yw cynllun sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru y mae’n ofynnol odano i P gymryd nifer o brofion am y coronafeirws a bennir yn y cynllun, ar ddyddiadau ac mewn modd a bennir felly;

(b)ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod prawf” yw diwrnod, rhwng y diwrnod y mae P yn cymryd y prawf cyntaf a’r prawf olaf o dan y cynllun, nad yw’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F1Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol]LL+C

F211A.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 29 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorolLL+C

F311AA.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: eithriad penodol ar gyfer pobl sydd wedi bod mewn gwledydd penodol LL+C

F411B.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad ar bersonau a chanddynt gyfrifoldeb dros blantLL+C

12.  Pan fo gofyniad wedi ei osod ar blentyn o dan reoliad 7(2) [F5neu 9(2)] , rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 12 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnolLL+C

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1) (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond

(b)yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

(2Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)