xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1RHAN 3ALL+CCyfyngiadau teithio etc.

Cyfyngiad ar deithio rhyngwladolLL+C

14A.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)teithio i fan cychwyn, neu fod yn bresennol ynddo, at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2) At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r diben y mae’r person yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ato yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(d)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(f)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(g)symud cartref;

(h)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(ii)fel gofalwr parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(c)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(d)athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(e)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu

(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin;

(f)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad.

(5) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(6) Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 14B a 29—

(a)mae i “yr ardal deithio gyffredin” yr un ystyr â “the common travel area” yn Neddf Mewnfudo 1971(2);

(b)ystyr “man cychwyn” yw terfynfa ryngwladol neu unrhyw fan arall yng Nghymru y caiff person deithio ohono i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Ffurflen datganiad teithio rhyngwladolLL+C

14B.(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog.

(2) Rhaid i’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol fod ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru(3) a chynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn P,

(b)dyddiad geni a chenedligrwydd P,

(c)rhif pasbort P, neu rif cyfeirnod dogfen deithio P (fel y bo’n briodol),

(d)cyfeiriad cartref P,

(e)cyrchfan P,

(f)y rheswm y mae P yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin,

(g)datganiad bod P yn ardystio bod yr wybodaeth y mae P yn ei darparu yn wir, ac

(h)y dyddiad y mae’r datganiad wedi ei gwblhau.

(3) Pan fo P yn teithio gyda phlentyn neu berson nad oes ganddo alluedd (“G”), y mae gan P gyfrifoldeb drosto, rhaid i P, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau sy’n ymwneud ag G i’r swyddog.

(4) Nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)i G, na

(b)i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(5) Yn y rheoliad hwn, nid oes gan berson alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr “lack capacity” yn adran 2 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(4), i gwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol.]