RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Mangreoedd rheoleiddiedig a phersonau cyfrifolI115

1

At ddibenion y Rheoliadau hyn, y canlynol yw “mangreoedd rheoleiddiedig”—

a

mangreoedd busnesau neu wasanaethau a restrir yn Atodlen 7, i’r graddau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt;

b

cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;

c

mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud.

2

Yn y Rhan hon, ystyr “person cyfrifol”, mewn perthynas â mangre reoleiddiedig, yw—

a

mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a) a (b), y person sy’n gyfrifol am y fangre,

b

mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 15 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirwsI216

1

At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

F2za

cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre ac, wrth wneud hynny, ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny;

a

cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

i

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

ii

pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

b

cymryd pob mesur rhesymol arall at y diben hwnnw, er enghraifft mesur sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

i

newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

ii

rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

iii

rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

iv

fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

v

gosod rhwystrau neu sgriniau;

vi

darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

c

darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

2

Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—

a

peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

b

cau rhan o’r fangre;

c

caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, am gyfnod—

i

a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

ii

a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;

d

casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

i

Gweinidogion Cymru;

ii

swyddog olrhain cysylltiadau;

e

cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

F13

Rhaid i asesiad o dan baragraff (1)(za)—

a

bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (“Rheoliadau 1999”), a

b

cael ei gynnal—

i

pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a

ii

pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.

4

At ddibenion paragraff (3)—

a

mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle “by or under the relevant statutory provisions F7...”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a

b

os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (3)(b)(ii)—

i

mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a

ii

mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (3)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedigI317

F31

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

cael person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ac sy’n dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;

b

ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

i

pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

ii

pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

iii

pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

3

Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.

4

Nid yw paragraff F5(2) yn gymwys i—

a

ffreuturau yn y gweithle, neu

b

mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

5

At ddibenion paragraff (1)—

a

nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

b

mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

6

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

F4Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthu17A

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;

b

darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;

c

mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;

d

er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—

i

arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;

ii

gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.

Canllawiau ynghylch cymryd mesurau rhesymolI418

1

Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 16(1)F6, 17(1) neu 17A roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

2

O ran Gweinidogion Cymru—

a

cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

b

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

3

Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

4

Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—

a

paragraff (1) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 20203, neu

b

paragraff (1) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 20204,

i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.