xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
37.—(1) Mae person sy’n torri gofyniad yn—
(a)Paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 1,
(b)paragraff 1(1) neu 2(1) neu (3) o Atodlen 2,
(c)paragraff 1(1) [F12(1) neu 3(1)] o Atodlen 3, neu
(d)paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—
(a)sy’n digwydd mewn annedd breifat,
(b)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac
(c)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i—
(i)paragraff 1(1) o Atodlen 1,
(ii)paragraff 1(1) o Atodlen 2,
(iii)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu
(iv)paragraff 2(1) o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 37(1)(c) wedi eu hamnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 37 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
38.—(1) Mae person sy’n torri gofyniad yn—
(a)rheoliad 14A, neu
(b)rheoliad 14B,
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar ffurflen datganiad teithio rhyngwladol o dan reoliad 14B pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r wybodaeth anwir neu gamarweiniol wedi ei rhoi am resymau diogelwch gwladol.]
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 38 wedi ei amnewid (12.4.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 38 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
39.—(1) Mae person sy’n torri gofyniad yn—
(a)paragraff 4 o Atodlen 1,
(b)paragraff 4 o Atodlen 2,
(c)[F3paragraff 5] o Atodlen 3,
(d)paragraff 4 o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu yn cyflawni trosedd.
(3) At ddibenion paragraff (2)—
(a)ystyr “digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—
(i)y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,
(ii)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a
(iii)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—
(aa)y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr “licensable activity” yn Neddf Trwyddedu 2003(1)), a
(bb)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno);
(b)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol mawr sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 39(1)(c) wedi eu hamnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 39 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
40.—(1) Mae person sydd—
(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) F4... neu 12, neu
(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F5neu 9(3)] ,
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—
(a)o dan reoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F6neu 9(3)] , neu
(b)ynghylch—
(i)gwybodaeth gyswllt P, neu
(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,
pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Ym mharagraff (2), mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 3.
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn rhl. 40(1)(a) wedi eu hepgor (27.2.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(7)(a)(i)
F5Geiriau yn rhl. 40(1)(b) wedi eu hamnewid (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(7)(a)(ii)
F6Geiriau yn rhl. 40(2)(a) wedi eu hamnewid (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(7)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 40 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
41. Mae person sy’n torri’r gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 20(1) yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 41 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
42.—(1) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn—
(a)[F7paragraff 7(1)] o Atodlen 1,
(b)[F8paragraff 7(1)] o Atodlen 2,
(c)paragraffau 7(1), 8(1) neu [F99(1)] o Atodlen 3, neu
(d)paragraffau 7(1), 8(1), 9(1) [F10, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4,
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 19(5) yn cyflawni trosedd.
(3) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad yn cyflawni trosedd.
(4) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 8 yn cyflawni trosedd.
(5) Mae person sydd—
(a)yn torri paragraff 3(2) o Atodlen 8, neu
(b)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,
yn cyflawni trosedd.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn rhl. 42(1)(a) wedi eu hamnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(10)(a)
F8Geiriau yn rhl. 42(1)(b) wedi eu hamnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(10)(b)
F9Gair yn rhl. 42(1)(c) wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(10)(c)
F10Geiriau yn rhl. 42(1)(d) wedi eu hamnewid (22.12.2020 dod i rym am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 42 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
43.—(1) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—
(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu
(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 32(2), neu
(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 27(1),
yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 43 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
44. Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 44 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
45. Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(2) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 45 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
46.—(1) Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—
(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
(3) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
(4) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
(5) Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(3) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(4) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
(6) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.
(7) Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 46 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).