xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8Troseddau a chosbau

PENNOD 1Troseddau

Troseddau sy’n ymwneud â chynulliadau a bod oddi cartref

37.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)Paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 1(1) neu 2(1) neu (3) o Atodlen 2,

(c)paragraff 1(1) neu 2(1) neu (3) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—

(a)sy’n digwydd mewn annedd breifat,

(b)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac

(c)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i—

(i)paragraff 1(1) o Atodlen 1,

(ii)paragraff 1(1) o Atodlen 2,

(iii)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu

(iv)paragraff 2(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

Troseddau cyfyngiadau teithio

38.  Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)paragraff 6(1) neu (2) o Atodlen 1,

(b)paragraff 6(1) neu (2) o Atodlen 2,

(c)paragraff 6(1) neu (2) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 6(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

Troseddau sy’n ymwneud â threfnu digwyddiadau

39.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)paragraff 4 o Atodlen 1,

(b)paragraff 4 o Atodlen 2,

(c)paragraff 4 o Atodlen 3,

(d)paragraff 4 o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu yn cyflawni trosedd.

(3At ddibenion paragraff (2)

(a)ystyr “digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

(i)y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,

(ii)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

(iii)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

(aa)y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr “licensable activity” yn Neddf Trwyddedu 2003(1)), a

(bb)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno);

(b)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol mawr sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.

Troseddau sy’n ymwneud â gofynion ynysu ac olrhain cysylltiadau

40.—(1Mae person sydd—

(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) neu 12, neu

(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(3), 7(3), 8(3) neu 9(3),

yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)o dan reoliad 6(3), 7(3), 8(3) neu 9(3), neu

(b)ynghylch—

(i)gwybodaeth gyswllt P, neu

(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,

pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(3Ym mharagraff (2), mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 3.

Trosedd o fethu â gwisgo gorchudd wyneb

41.  Mae person sy’n torri’r gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 20(1) yn cyflawni trosedd.

Troseddau sy’n ymwneud â busnesau a gwasanaethau

42.—(1Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn—

(a)paragraffau 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 1,

(b)paragraffau 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 2,

(c)paragraffau 7(1), 8(1) neu (2) neu 10(1) o Atodlen 3, neu

(d)paragraffau 7(1), 8(1), 9(1) neu 10(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 19(5) yn cyflawni trosedd.

(3Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad yn cyflawni trosedd.

(4Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 8 yn cyflawni trosedd.

(5Mae person sydd—

(a)yn torri paragraff 3(2) o Atodlen 8, neu

(b)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.

Rhwystro a thorri cyfarwyddydau a hysbysiadau cydymffurfio

43.—(1Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—

(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu

(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 32(2), neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 27(1),

yn cyflawni trosedd.

Cosb

44.  Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

Arestio heb warant

45.  Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(2) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.

46.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(3Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(4Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(5Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(3) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(4) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(6Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(7Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y corff.

(2)

1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).