47.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)awdurdod lleol, neu
(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4) Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan—
(a)rheoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(b)rheoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,
(c)rheoliad 31 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(d)rheoliad 37 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(5) Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.
(6) Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 47 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
48.—(1) Oni bai bod rheoliad 49, [F149A,] 50, 51 neu 52 yn gymwys, swm cosb benodedig yw—
(a)£60, neu
(b)os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hybysiad, £30.
(2) Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig o’r fath iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—
(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;
(b)hysbysiad cosb benodedig o dan—
(i)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(ii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 21(7A) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(iii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 31(8) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(iv)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 39, 40, 41 neu 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,
(v)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(1).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 48(1) wedi ei fewnosod (12.4.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 48 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
49. Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(2), swm y gosb benodedig yw £60.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 49 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
49A. Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 38(1)(a), swm y gosb benodedig yw £5000.]
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 49A wedi ei fewnosod (12.4.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(10)
50.—(1) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(1), swm y gosb benodedig yw £500.
(2) Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)swm y gosb benodedig yw—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,000;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £4,000.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—
(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;
(b)hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 40 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 50 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
51. Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(2), swm y gosb benodedig yw £10,000.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 51 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
52.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 42(1), (2), (3) neu (4) (“trosedd busnes honedig”).
(2) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.
(3) Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—
(a)nid yw paragraff (2) yn gymwys, a
(b)swm y gosb benodedig yw—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.
(4) Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—
(a)hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig;
(b)hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 52 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
53.—(1) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;
(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd rheoliad 47(6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig a bennir o dan reoliad 48, 49, [F349A,] 50, 51 neu 52 (yn ôl y digwydd);
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(2) Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (1)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) at y person y nodir ei enw o dan baragraff (1)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(3) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(4) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)yr awdurdod lleol, neu
(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 47(2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.
Diwygiadau Testunol
F3Gair yn rhl. 53(1)(c) wedi ei fewnosod (12.4.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(11)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 53 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
54.—(1) Pan fo’r un weithred neu anweithred, neu fwy neu lai yr un weithred neu anweithred, gan berson yn gallu arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni mwy nag un drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ni chaniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i’r person ond mewn cysylltiad ag un o’r troseddau honedig.
(2) Ond caniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(1) yn ogystal â throsedd honedig o dan reoliad 37(2) pan fo’r un weithred, neu fwy neu lai yr un weithred, gan berson yn arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni’r naill drosedd a’r llall.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 54 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)