PENNOD 3Achosion
Hunanargyhuddo
55.—(1) Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.
(2) Pan fo’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn achos ac eithrio am drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911() (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—
(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a
(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu
(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—
(a)gwybodaeth sy’n wybodaeth berthnasol at ddibenion rheoliad 14;
(b)gwybodaeth, neu’r ateb i gwestiwn, a roddir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan reoliad 36(1);
(c)unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen neu gofnodion electronig a ddangosir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff 8(1) o Atodlen 8.
Erlyn
56.—(1) Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—
(a)y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,
(b)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu
(c)mewn perthynas ag achos am drosedd o dan reoliad 42, awdurdod lleol.
(2) Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,
(b)rheoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,
(c)rheoliad 32 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu
(d)rheoliad 46 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,
i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.