RHAN 9Cyffredinol

DehongliI157

1

Yn y Rheoliadau hyn—

a

“mae i “alcohol” yr ystyr a roddir i “alcohol” gan adran 191 o Ddeddf Trwyddedu 200317;

b

ystyr “seremoni briodas arall” yw seremoni—

i

sy’n seiliedig ar ffydd neu gred person, neu ei ddiffyg cred, i nodi uniad dau o bobl, ac eithrio seremoni at ddibenion gweinyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,

ii

a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, a

iii

a drefnir gan sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol;

c

ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—

i

hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201418,

ii

y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

iii

y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201619;

d

ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

F2da

ystyr “gwasanaeth cysylltiad agos” yw gwasanaeth a ddarperir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

i

salonau gwallt a barbwyr;

ii

salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis;

iii

gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio;

e

ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

f

ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—

i

person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200620 neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 197821);

ii

person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,

sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 3 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru22 neu awdurdod lleol;

g

ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

F3h

ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—

i

sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

ii

sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—

aa

y Rheoliadau hyn,

bb

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

cc

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

dd

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

ee

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

iii

sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020,

iv

sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, neu

v

sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020;

i

ystyr “digwyddiad chwaraeon elît” yw digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

j

ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

k

ystyr “busnes bwyd a diod” yw—

i

bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau);

ii

tafarndai;

iii

caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau);

l

ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

i

wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

ii

yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

m

ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn—

i

safleoedd gwersylla;

ii

safleoedd gwyliau;

iii

gwestai a llety gwely a brecwast;

iv

llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio);

n

ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

o

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 198923;

p

mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

q

mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

r

ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

s

mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(1);

F4t

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

u

ystyr “aelwyd un oedolyn” yw—

i

aelwyd sydd ag 1 oedolyn (ac unrhyw nifer o blant), neu

ii

aelwyd sydd ag—

aa

1 oedolyn sydd â chyfrifoldebau gofalu am 1 oedolyn arall neu ragor ar yr aelwyd,

bb

yr oedolyn neu’r oedolion y gofelir amdanynt,

cc

dim oedolion eraill, a

dd

unrhyw nifer o blant;

v

mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

w

mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

i

unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

ii

unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

iii

unrhyw berson sy’n feichiog;

iv

unrhyw blentyn;

v

unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200626.

2

At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio yn unol â pharagraff (1)(l), mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

a

y person sy’n berchen ar y safle, neu

b

person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 201327 yn gymwys iddo.

3

Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—

a

maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;

b

nid ydynt yn cynnwys y canlynol—

i

llety gwyliau neu lety teithio;

ii

llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

iii

llety cyfiawnder troseddol.

4

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

b

mae digwyddiad yn achlysur—

i

sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol, a

ii

pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un man at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.

5

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan F1reoliad 3 o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 ;

b

mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

6

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema o sedd cerbyd neu’n theatr o sedd cerbyd—

a

os yw’r fangre yn yr awyr agored, a

b

os o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—

i

ni chânt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a

ii

ni chânt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.

7

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—

a

os yw wedi ei drefnu gan—

i

busnes,

ii

corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

iii

clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

iv

corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

b

os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

i

cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 199929, pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

ii

cydymffurfio â gofynion rheoliadau 16 ac 18(1).

8

At ddibenion paragraff (7)(b)

a

mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

b

mae rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—

i

y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a

ii

y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.

DirymuI258

Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

a

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, ac eithrio rheoliad 48;

b

rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 202030;

c

rheoliad 6 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 202031.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 58 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Diwygiad canlyniadolI359

Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

e

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 os yw rheoliad 48 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys i’r hysbysiad.