Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 9LL+CCyffredinol

DehongliLL+C

57.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)“mae i “alcohol” yr ystyr a roddir i “alcohol” gan adran 191 o Ddeddf Trwyddedu 2003(1);

(b)ystyr “seremoni briodas arall” yw seremoni—

(i)sy’n seiliedig ar ffydd neu gred person, neu ei ddiffyg cred, i nodi uniad dau o bobl, ac eithrio seremoni at ddibenion gweinyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,

(ii)a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, a

(iii)a drefnir gan sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol;

(c)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—

(i)hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2),

(ii)y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3);

(d)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

[F1(da)ystyr “gwasanaeth cysylltiad agos” yw gwasanaeth a ddarperir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)salonau gwallt a barbwyr;

(ii)salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis;

(iii)gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio;]

(e)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

(f)ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—

(i)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4) neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5));

(ii)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,

sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 3 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(6) neu awdurdod lleol;

(g)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

[F2(h)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—

(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

(ii)sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—

(aa)y Rheoliadau hyn,

(bb)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(cc)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(dd)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(ee)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(iii)sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020,

(iv)sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, neu

(v)sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020;]

(i)ystyr “digwyddiad chwaraeon elît” yw digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

(j)ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

(k)ystyr “busnes bwyd a diod” yw—

(i)bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau);

(ii)tafarndai;

(iii)caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau);

(l)ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(i)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(ii)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(m)ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn—

(i)safleoedd gwersylla;

(ii)safleoedd gwyliau;

(iii)gwestai a llety gwely a brecwast;

(iv)llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio);

(n)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(o)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989(7);

(p)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(q)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(r)ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

(s)mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(1);

F3(t). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(u)ystyr “aelwyd un oedolyn” yw—

(i)aelwyd sydd ag 1 oedolyn (ac unrhyw nifer o blant), neu

(ii)aelwyd sydd ag—

(aa)1 oedolyn sydd â chyfrifoldebau gofalu am 1 oedolyn arall neu ragor ar yr aelwyd,

(bb)yr oedolyn neu’r oedolion y gofelir amdanynt,

(cc)dim oedolion eraill, a

(dd)unrhyw nifer o blant;

(v)mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

(w)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;

(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(8).

(2At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio yn unol â pharagraff (1)(l), mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchen ar y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(9) yn gymwys iddo.

(3Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—

(a)maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;

(b)nid ydynt yn cynnwys y canlynol—

(i)llety gwyliau neu lety teithio;

(ii)llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(iii)llety cyfiawnder troseddol.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

(b)mae digwyddiad yn achlysur—

(i)sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol, a

(ii)pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un man at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan [F4reoliad 3 o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020] ;

(b)mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

(6At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema o sedd cerbyd neu’n theatr o sedd cerbyd—

(a)os yw’r fangre yn yr awyr agored, a

(b)os o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—

(i)ni chânt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a

(ii)ni chânt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.

(7At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—

(a)os yw wedi ei drefnu gan—

(i)busnes,

(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

(b)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(10), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 16 ac 18(1).

(8At ddibenion paragraff (7)(b)

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

(b)mae rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—

(i)y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a

(ii)y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.

DirymuLL+C

58.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, ac eithrio rheoliad 48;

(b)rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020(11);

(c)rheoliad 6 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020(12).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 58 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Diwygiad canlyniadolLL+C

59.  Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(e)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 os yw rheoliad 48 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys i’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 59 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

(1)

Diwygiwyd adran 191 gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3) ac O.S. 2006/2407.

(6)

Sefydlwyd gan O.S. 2009/2058 (Cy. 177).

(7)

1989 p. 41. Gweler Rhan 1 o’r Ddeddf, y mae diwygiadau amrywiol wedi eu gwneud iddi, gan gynnwys gan Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (p. 22) ac O.S. 2019/1458.

(8)

Diwygiwyd adran 60 gan adran 65 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(9)

2013 dccc 6, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

(10)

O.S. 1992/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637.