Gofynion ynysu: eithriad ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mewn cynllun profiLL+C
11.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—
(a)bo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw neu fod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu 9(2) (“y gofyniad ynysu”), a
(b)bo P yn cytuno i gymryd rhan mewn cynllun profi.
(2) Os yw prawf cyntaf P o dan y cynllun profi yn negatif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).
(3) Os yw canlyniad prawf a gymerir gan P o dan y cynllun profi yn bositif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf fel pe na bai wedi peidio â bod yn gymwys yn rhinwedd y paragraff (2).
(4) Er gwaethaf paragraff (2), mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P ar—
(a)diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau prawf;
(b)unrhyw ddiwrnod y mae’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun ond y mae’n methu â gwneud hynny.
(5) Os yw P yn cael canlyniad negatif am y coronafeirws yn ei brawf olaf o dan y cynllun profi, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r cynharaf o—
(a)yr adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, neu
(b)diwrnod olaf ynysiad P a gyfrifir yn unol â rheoliad 8 neu 9 yn ôl y digwydd.
(6) Pan fo P yn blentyn—
(a)rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros P gytuno ar ran P fod P i gymryd rhan mewn cynllun profi;
(b)mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau (2) a (5)(a) at P yn cael canlyniad prawf yn cynnwys cyfeiriadau at berson a chanddo gyfrifoldeb dros P yn cael y canlyniad.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cynllun profi” yw cynllun sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru y mae’n ofynnol odano i P gymryd nifer o brofion am y coronafeirws a bennir yn y cynllun, ar ddyddiadau ac mewn modd a bennir felly;
(b)ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod prawf” yw diwrnod, rhwng y diwrnod y mae P yn cymryd y prawf cyntaf a’r prawf olaf o dan y cynllun, nad yw’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun.