RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1Gofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

F1Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol11A.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

yng Nghymru am F24.00 a.m. ar F322 Ionawr 2021 ,

(b)

wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn F44.00 a.m. ar F522 Ionawr 2021, ac

(c)

wedi bod F6yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania o fewn y cyfnod hwnnw.

(2)

Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod F7yr oedd P F8yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania ddiwethaf .

(3)

Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—

(a)

am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

(b)

am gyfeiriad y man hwnnw.”

F9(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .