Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnolLL+C
13.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—
(a)wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1) (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond
(b)yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.
(2) Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)