RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Mangreoedd rheoleiddiedig a phersonau cyfrifolI115

1

At ddibenion y Rheoliadau hyn, y canlynol yw “mangreoedd rheoleiddiedig”—

a

mangreoedd busnesau neu wasanaethau a restrir yn Atodlen 7, i’r graddau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt;

b

cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;

c

mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud.

2

Yn y Rhan hon, ystyr “person cyfrifol”, mewn perthynas â mangre reoleiddiedig, yw—

a

mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a) a (b), y person sy’n gyfrifol am y fangre,

b

mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.