RHAN 4LL+CCymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirwsLL+C

16.—(1At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

[F1(za)cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre ac, wrth wneud hynny, ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny;]

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

(b)cymryd pob mesur rhesymol arall at y diben hwnnw, er enghraifft mesur sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(2Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre;

(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, am gyfnod—

(i)a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

(ii)a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;

(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;

(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

[F2(3) Rhaid i asesiad o dan baragraff (1)(za)—

(a)bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (“Rheoliadau 1999”), a

(b)cael ei gynnal—

(i)pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a

(ii)pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.

(4) At ddibenion paragraff (3)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle “by or under the relevant statutory provisions F3...”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a

(b)os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (3)(b)(ii)—

(i)mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a

(ii)mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (3)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.]