RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws16

1

At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

a

cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

i

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

ii

pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

b

cymryd pob mesur rhesymol arall at y diben hwnnw, er enghraifft mesur sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

i

newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

ii

rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

iii

rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

iv

fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

v

gosod rhwystrau neu sgriniau;

vi

darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

c

darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

2

Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—

a

peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

b

cau rhan o’r fangre;

c

caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, am gyfnod—

i

a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

ii

a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;

d

casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

i

Gweinidogion Cymru;

ii

swyddog olrhain cysylltiadau;

e

cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.