xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws

16.—(1At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

(b)cymryd pob mesur rhesymol arall at y diben hwnnw, er enghraifft mesur sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(2Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre;

(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, am gyfnod—

(i)a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

(ii)a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;

(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;

(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.