RHAN 4LL+CCymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedigLL+C

17.—(1Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid gwerthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre yn unol â’r mesurau rhesymol a bennir ym mharagraff (2) (yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4)).

(2Y mesurau rhesymol yw—

(a)bod rhaid bod person yn rheoli mynediad i’r fangre ac yn dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;

(b)bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

(3Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—

(a)ffreuturau yn y gweithle, neu

(b)mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

(5At ddibenion paragraff (1)—

(a)nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

(b)mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

(6Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 17 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)