RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedig17

1

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid gwerthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre yn unol â’r mesurau rhesymol a bennir ym mharagraff (2) (yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4)).

2

Y mesurau rhesymol yw—

a

bod rhaid bod person yn rheoli mynediad i’r fangre ac yn dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;

b

bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

i

pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

ii

pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

iii

pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

3

Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.

4

Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—

a

ffreuturau yn y gweithle, neu

b

mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

5

At ddibenion paragraff (1)—

a

nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

b

mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

6

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.