RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

F1Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthu17A

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;

b

darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;

c

mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;

d

er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—

i

arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;

ii

gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.