RHAN 4Cymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Canllawiau ynghylch cymryd mesurau rhesymolI118

1

Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 16(1)F1, 17(1) neu 17A roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

2

O ran Gweinidogion Cymru—

a

cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

b

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

3

Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

4

Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—

a

paragraff (1) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 20203, neu

b

paragraff (1) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 20204,

i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.